Lowri Gwilym

Oddi ar Wicipedia
Lowri Gwilym
GanwydLowri Williams Edit this on Wikidata
14 Hydref 1954 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Bu farw21 Gorffennaf 2010 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcynhyrchydd teledu, cynhyrchydd radio Edit this on Wikidata
TadDavid Gwyn Williams Edit this on Wikidata

Cynhyrchydd radio-a-theledu Cymreig oedd Lowri Gwilym (14 Hydref 195421 Gorffennaf 2010). Bu'n gweithio i BBC Cymru ac i S4C.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Lowri Williams yn Aberystwyth[1] i Daisy a David Gwyn Williams, awdur ac academydd. Fe'i magwyd yn Nhwrci a Libya, lle'r oedd ei thad yn Athro Saesneg. Pan oedd yn 18 oed, newidiodd ei chyfenw Williams i'r ffurf Gymraeg, Gwilym.[2] Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor a chwblhaodd gradd Meistr o Lythyrau ym Mhrifysgol Rhydychen. Yna fe ddarlithiodd ym Mhrifysgol Bologna am ddwy flynedd.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ymunodd Gwilym a BBC Cymru yn yr 1980au a chynhyrchodd a chyfarwyddodd nifer o raglenni dogfen i deledu dros ddau ddegawd. Roedd y rhain yn cynnwys y gyfres i S4C, O Flaen dy Lygaid ac yn y Saesneg, cyfres Women in Politics.[3] Yn y 1980au hwyr cynhyrchodd rhaglenni dogfen am wahanol ferched mewn gwleidyddiaeth, gan gynnwys Eugenia Charles, Simone Veil, Tatyana Zaslavskaya a Benazir Bhutto.[4] Creodd y rhaglen radio Beti a'i Phobol, a gyflwynir gan Beti George, ar gyfer BBC Cymru.[1][5] Ar achlysur pen-blwydd 25 oed y rhaglen, hi oedd gwestai Beti, ar 14 Mawrth 2010.

Wedi symud i fyd teledu, cynhyrchodd y rhaglen ddogfen 'pry ar y wal' Aber yn 1998 - rhaglen oedd yn dilyn hynt a helynt criw o myfyrwyr flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth.[6]

Cyflogwyd Gwilym gan S4C yn 2004 fel golygydd rhaglenni ffeithiol a chyd-gynyrchiadau.[2] Roedd ei chynyrchiadau ar gyfer S4C yn cynnwys O'r Galon, Wynebau Newydd, Cefn Gwlad, Ffermio, a rhaglenni natur Iolo Williams.[3] Bu'n olygydd cynnwys ar y rhaglenni materion cyfoes Y Byd ar Bedwar a Wedi 7.[1] Yn 2010, enillodd wobr BAFTA Cymru am ei gwaith ar Dwy Wraig Lloyd George.[2]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Gwilym yn sydyn o waedlif ar yr ymennydd ar 21 Gorffennaf 2010; yn 55 mlwydd oed.[1][2] Ei phartner oedd y newyddiadurwr teledu Meic Birtwistle, ac roedd ganddynt ddau fab, Ifan a Glyn.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Lowri Gwilym: Widely admired Welsh television executive". The Independent (yn Saesneg). 31 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Williams, Richard (4 August 2010). "Lowri Gwilym obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 April 2016.
  3. 3.0 3.1 "S4C programme maker Lowri Gwilym dies" (yn Saesneg). WalesOnline. 23 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
  4. "Lowri Gwilym". British Film Institute. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
  5. "Colli Lowri Gwilym". BBC News. 22 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
  6. Aber Aber: Ble maen nhw nawr? , BBC Cymru Fyw, 19 Hydref 2017. Cyrchwyd ar 15 Hydref 2020.