Neidio i'r cynnwys

Louis Prima

Oddi ar Wicipedia
Louis Prima
Ganwyd7 Rhagfyr 1910 Edit this on Wikidata
New Orleans Edit this on Wikidata
Bu farw24 Awst 1978 Edit this on Wikidata
New Orleans Edit this on Wikidata
Label recordioCapitol Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Warren Easton High School
  • Jesuit High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Arddulljazz Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadLouis Armstrong Edit this on Wikidata
PriodUnknown, Unknown, Unknown, Keely Smith, Gia Maione Edit this on Wikidata
PlantLena Prima, Louis Prima, Jr. Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.louisprima.com/ Edit this on Wikidata

Canwr, trympedwr, cyfansoddwr caneuon, a blaenwr band o Unol Daleithiau America oedd Louis Leo Prima (7 Rhagfyr 191024 Awst 1978) a fu'n un o sêr jazz a swing yr 20g, gyda chryglais nodweddiadol. Ymhlith ei gyfansoddiadau mae "Sing, Sing, Sing (With a Swing)" (1936) a "Jump, Jive, an' Wail" (1956).

Ganed ef yn New Orleans, Louisiana, i fewnfudwyr o Sisili. Fe'i magwyd mewn tŷ cerddorol, a mynychodd clybiau miwsig y ddinas ers ei fachgendod. Dylanwadwyd arno o'r cychwyn gan Dixieland a'r felan-gân, ac yn ei arddegau ffurfiodd fand jazz yn arddull New Orleans, gyda saith o aelodau. Yn y 1930au sefydlodd combo swing, ac yn y 1940au blaenodd un o grwpiau mwyaf poblogaidd oes y big band.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Prima ei ddyfarnu'n anghymwys i wasanaethu yn y lluoedd arfog oherwydd anaf i'w ben-glin. Yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel, pan oedd anterth y big band ar drai, ymaddasai i ffasiynau a datblygiadau'r cyfnod, gan dynnu ar roc a rôl, rhythm a blŵs, a bwgi-wgi. Prima oedd un o brif ladmeryddion blŵs naid, ac yn y 1950au ymgartrefodd yn Las Vegas ac arloesodd ddull "canu'r lolfa". Prima oedd un o'r cerddorion cyntaf i sefydlu preswylfa gyngerdd ar y Strip, gan berfformio'n rheolaidd yn y casinos a'r clybiau nos yn Las Vegas.

Yn ogystal â'i fedr cerddorol, enillodd Prima enw fel difyrrwr amryddawn, a disgleiriodd ar y llwyfan gyda'i ddigrifwch a'i hwyliogrwydd, a chwmnïaeth ei fand.[1] Prima oedd un o'r cerddorion Eidalaidd-Americanaidd cyntaf i gofleidio'i dreftadaeth ar y llwyfan, a chynnwys ei hunaniaeth Sisilaidd yn ei bersona a'i berfformiadau. Cyfunodd elfennau o gerddoriaeth werin yr Eidal, er enghraifft y darantela, â jazz a swing, a chanai yn yr iaith Eidaleg yn aml, hyn oll mewn oes pan nad oedd difyrwyr y prif ffrwd yn hoff o amlygu'u gwreiddiau ethnig i'r cyhoedd.

Ymddangosodd Prima mewn rôl trympedwr neu flaenwr band mewn sawl ffilm, weithiau'n portreadu ei hun: Rhythm on the Range (1936), You Can't Have Everything (1937), Manhattan Merry-Go-Round (1937), Start Cheering (1938), Rose of Washington Square (1939), a Senior Prom (1958). Cyd-serennodd â'i wraig Keely Smith yn y ffilm gerdd Hey Boy! Hey Girl! (1959), ac efe oedd y prif actor yn The Continental Twist (1961), llun sy'n ymwneud â dawns y twist. Ei rôl enwocaf oedd lleisio'r orangwtang King Louie yn The Jungle Book (1967), un o glasuron animeiddiedig Disney. Portreadodd ei hun unwaith eto yn y ddrama gomedi Rafferty and the Gold Dust Twins (1975).

Bu farw Louis Prima yn New Orleans yn 67 oed, wedi tair blynedd mewn coma.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Louis Prima. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2024.