Louis Hémon

Oddi ar Wicipedia
Louis Hémon
Ganwyd12 Hydref 1880 Edit this on Wikidata
Brest Edit this on Wikidata
Bu farw8 Gorffennaf 1913 Edit this on Wikidata
o damwain rheilffordd Edit this on Wikidata
Chapleau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycée Louis-le-Grand Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMaria Chapdelaine Edit this on Wikidata
Gwobr/auperson hanesyddol dynodedig Edit this on Wikidata

Nofelydd Ffrengig oedd Louis Hémon (11 Hydref 1880 - 8 Gorffennaf 1913). Cafodd ei eni yn ninas Brest, Llydaw, yn fab i arolygwr ysgolion, a'i addysgu ym Mharis. Er iddo gael swydd dan y wladwriaeth, roedd ynddo ysbryd rhydd, ac ymddiswyddodd o'i swydd er mwyn cael crwydro. Treuliodd wyth blynedd yn Lloegr yn weithio fel athro Ffrangeg ac yn ysgrifennu nifer o nofelau .Yn 1911 aeth i Ganada, lle gweithiodd fel clerc swyddog ac fel cyfieithydd yn Montréal, ac yma yr ysgrifennodd ei nofel enwog Maria Chapdelaine. Bu hefyd yn was fferm am ddau fis yn nyffryn Péribonka ger Llyn St Jean. Ar ôl gadael y fferm crwydrodd tua'r gorllewin ym Mehefin 1913, tuag at Ontario a'r Llynnoedd Mawr. Ar 8 Gorffennaf 1913 tra roedd yn cerdded ar hyd rheilffordd fe'i trawyd a'i ladd gan drên ger Chapleau, Ontario.

Cyfieithwyd Maria Chapdelaine i'r Gymraeg gan John Edwards o dan y teitl Ar Gwr y Goedwig, a'i chyhoeddi gyntaf yn Gymraeg yn 1955. Roedd wedi cael beirniadaeth arni mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1952.

Rhestr o'i weithiau[golygu | golygu cod]

  • Lizzie Blakeston (1908)
  • Maria Chapdelaine (1913)
  • La Belle que voilà (1923)
  • Colin-Maillard (1924)
  • Battling Malone, pugiliste (1926)
  • Monsieur Ripois et la Némésis (1950)