Lost in Translation (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Lost in Translation

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Sofia Coppola
Cynhyrchydd Sofia Coppola
Ross Katz
Ysgrifennwr Sofia Coppola
Serennu Bill Murray
Scarlett Johansson
Cerddoriaeth Brian Reitzell
Kevin Shields
Roger Joseph
Sinematograffeg Lance Acord
Golygydd Sarah Flack
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Focus Features
Dyddiad rhyddhau 3 Hydref, 2003
Amser rhedeg 102 munud
Iaith Saesneg
Siapanëg
(Saesneg) Proffil IMDb

Mae Lost in Translation yn ddrama-gomedi a gynhyrchwyd yn 2003. Mae Bill Murray a Scarlett Johansson yn actio yn y ffilm. Dyma oedd ail ffilm Sofia Coppola i'w hysgrifennu a'i chynhyrchu. Y cyntaf oedd "The Virgin Suicides". Enwebwyd y ffilm am bedair o Wobrau'r Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau, yr Actor Gorau i Bill Murray a'r Cyfarwyddwr Gorau i Sofia Coppola. Enillodd Copola Sgript Wreiddiol Orau.

Ar lefel arwynebol, mae Lost in Translation yn ffilm sy'n ymdrin â sioc diwylliannol. Astudia'r ffilm y thema hon gyda diwylliant ddinesig Siapan fodern yn gefndir iddi.

Plot[golygu | golygu cod]

Egyr y ffilm wrthi i gymeriad Bob Harris (Bill Murray), a arferai fod yn actor ffilm enwog pan oedd yn iâu, gyrraedd yn Tokyo er mwyn ffilmio hysbyseb ar gyfer chwisgi Suntory. (Mae hyn yn gyfeiriad at actorion go-iawn o Hollywood sy'n hysbysebu cynhyrchion dramor, gan gynnwys tad Sofia Coppola, Francis Ford Coppola, a wnaeth hysbysebion gyda Akira Kurosawa tra'n ffilmio.[1])

Mae Charlotte (Scarlett Johansson) yn wraig ifanc i ffotograffydd enwogion sy'n gweithio yn Tokyo. Pan mae ei gwr yn ei gadael ar ei phen ei hun er mwyn mynd i dynnu lluniau, mae Charlotte yn ansicr o'i phresennol, ei dyfodol ac o'r gwr mae hi wedi priodi. Mae'n amlwg hefyd fod perthynas Bob gyda'i wraig o bum mlynedd ar hugain yn syrffedus a phrin yw'r rhamant sydd rhyngddynt a datgelir hyn wrth iddo'i ffonio yn ôl yn yr Unol Daleithiau. Ffurfia Bob a Charlotte berthynas ar ôl iddynt gyfarfod ym mar y gwesty lle maent yn aros a gwelwn ddechreuadau cyfeillgarwch rhwng y ddau. Gwelwn y ddau ohonynt yn darganfod Tokyo gyda'i gilydd wrth iddynt brofi'r gwahaniaeth rhwng diwylliant Siapanëaidd ac Americanaidd. Trwy rannu'r un profiadau ac amser yng nghwmni ei gilydd, daw'r ddau agosach at ei gilydd am nad yw'r ddau'n medru cysgu yn y ddinas ddieithr.

Ar noson olaf ond un Bob, mae ef yn tynnu sylw cantores rheolaidd bar y gwesty. Trannoeth, dihuna Bob i ddarganfod y wraig hon yn ei ystafell tra bod Charlotte yn aros amdano. Yn ddiweddarach, ceir gwrthdaro byr rhwng y ddau pan maent yn cyfarfod mewn bwyty ac ymddengys mai gwraidd y gwrthdaro yw'r ffaith fod Bob wedi cysgu gyda'r wraig arall. Yn hwyrach y noson honno, yn ystod y larwn dân, mae'r ddau yn cymodi ac yn datgan y byddant yn gweld eisiau ei gilydd.

Ar fore ei ymadawiad, wrth i Bob deithio yn ei dacsi i'r maes awyr, gwêl Charlotte ar stryd brysur. Gofynna i'r gyrrwr i stopio, aiff allan o'r car a dilyna Charlotte. Pan mae'n ei chyrraedd, wyneba'r ddau ei gilydd am foment hir ac yna cofleidiant ei gilydd. Sibryda Bob rhywbeth yng nghlust y Charlotte dagreuol, cusana hun ac yna mae'n gadael.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Screenhead.com Fideo o'r hysbyseb yr ymddangosodd Francis Ford Coppola ynddi". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-07. Cyrchwyd 2008-10-20.
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.