Losin rhesog
Gwedd
Losin mawr sfferaidd wedi ei ferwi'n galed yw losin rhesog.[1] Mae'n amhosib ei gnoi felly mae'n rhaid ei sugno. Gwneir gydag haenau consentrig o wahanol liwiau, ac felly mae'n newid lliw wrth doddi yn y geg. Gellir ei ystyried yn gonffit neu'n dragée anferth.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [gob: gob-stopper].
- ↑ Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 344.