Neidio i'r cynnwys

Lori fechan

Oddi ar Wicipedia
Lori fechan
Enghraifft o:math o goetsh waith Edit this on Wikidata
Mathlori Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0cvq3 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o gerbyd modur yw lori fechan neu ar lafar picyp a chanddo gaban caeedig ar gyfer teithwyr a lle agored i ddal llwythi yn y cefn. Math o gerbyd pob pwrpas ydyw a ddylunir i gludo nwyddau ac offer. Dyluniwyd ac adeiladwyd y lori gyntaf ym 1896 gan Gottlieb Daimler o'r Almaen.[1]

Prif nodwedd y lori fechan yw'r lle gwastad, agored y tu cefn i'r cerbyd, sydd fel rheol yn rhoi mwy o le na chwt car, ond llai o le na chefn fan neu lori fawr. Yn debyg i lori wastad, nid oes to ar yr ardal gargo, er y gellir gosod cynfas neu orchudd tebyg i ddiogelu'r llwythi. Gall y cefn hefyd gynnwys tinddor a gaiff ei chau pan bo'r lori yn teithio.[2]

Mae esiamplau poblogaidd yn cynnwys y Ford F-150, y Chevrolet Silverado, y Toyota Tacoma, a'r Ram 1500. Maent yn gyffredin ym myd amaeth a'r diwydiannau adeiladu, ac ar gyfer gweithgareddau awyr agored.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Jeff MacGregor. "The Rugged History of the Pickup Truck". Smithsonian Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Ionawr 2025.
  2. Jim Travers. "An Illustrated History of the Pickup Truck". Car and Driver (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Ionawr 2025.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: