Lore Segal

Oddi ar Wicipedia
Lore Segal
Ganwyd9 Mawrth 1928, 8 Mawrth 1928 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Coleg Bedford Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, ysgrifennwr, cyfieithydd, nofelydd, academydd, awdur plant Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Theodor Kramer prize Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd yw Lore Segal (ganwyd 9 Mawrth 1928) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ieithydd, cyfieithydd, nofelydd academydd ac awdur plant. Roedd ei llyfr, Shakespeare's Kitchen, yn rownd derfynol Gwobr Pulitzer yn 2008.[1]

Fe'i ganed yn Fienna, Awstria ar 9 Mawrth 1928 yn unig blentyn. Roedd y teulu'n Iddewon. Banciwr a chyfrifydd oedd ei thad a gweithiai ei mam fel gwraig tŷ.[2][3]

Dianc[golygu | golygu cod]

Pan atododd Hitler Awstria yn rhan o'r Almaen yn 1938, diswyddwyd tad Segal ac roedd y teulu o dan fygythiad. Rhestrodd y teulu ar gwota mewnfudo i America, ac ym mis Rhagfyr, ymunodd Segal â phlant Iddewig eraill ar don gyntaf y daith-achub Kindertransport ("cludo plant"), gan geisio diogelwch yn Lloegr. Trefn eitha tebyg i'r ifaciwis o ddinasoedd Lloegr i Gymru. Cyn iddynt wahanu, dywedodd tad Segal wrthi, "Pan gyrhaeddwch chi Loegr a chwrdd â Sais, dywedwch, 'Ceisiwch gael fy rhieni a'm teidiau a'm neiniau a fy Ewythr Paul allan o Awstria.' " Am rai blynyddoedd wedi hynny, ceisio wneud y gwaith yma.[4]

Er mai ychydig iawn o Saesneg oedd gan Segal pan gyrhaeddodd, dysgodd yr iaith mewn chwe wythnos. Ymgyrchodd yn ddiflino, gan ysgrifennu llythyr ar ôl llythyr at y Pwyllgor Ffoaduriaid Iddewig ac amrywiol awdurdodau Prydeinig. Ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn un ar ddeg oed, cyrhaeddodd ei rhieni yn Lloegr ar fisa gweision domestig. Gwaharddwyd hi rhag byw gyda'i rhieni yn eu gweithleoedd newydd, ac felly, bu Segal yn byw gyda phump gwahanol teulu maeth. Ysbrydolodd y profiad hwn hi fel awdur.

Nid oedd ei rhieni maeth yn Lloegr yn ymddangos fel pe baent yn deall y sefyllfa yn Awstria, ac un diwrnod, wedi blino ar eu cwestiynau amherthnasol, daeth Segal o hyd i lyfr nodiadau gyda chlawr porffor a dechreuodd ysgrifennu, gan lenwi'r dau-ddeg-chwech tudalen yn Almaeneg. Dyma ddechrau nofel y byddai'n ysgrifennu yn Saesneg yn y pen draw, Other People Houses.

Bu farw ei thad yn 1945 a symudodd Segal i Lundain gyda'i mam. Mynychodd Goleg Bedford i Fenywod, rhan o Brifysgol Llundain, ar ysgoloriaeth, a graddiodd yn 1948 gyda gradd anrhydedd mewn llenyddiaeth Saesneg. Yn 1951, ar ôl treulio tair blynedd yn Ngweriniaeth Dominica, cawsant ganiatad i symud i UDA. Symudodd Segal a'i mam i Washington Heights, Dinas Efrog Newydd, lle buont yn rhannu fflat dwy ystafell gyda'i mam-gu a'i hewythr.

Yr awdur[golygu | golygu cod]

Dechreuodd gyflwyno straeon am ei phrofiad fel ffoadur i The New Yorker ond deryniodd lythyrau'n gwrthod ei gwaith. Yn 1965, cyhoeddodd Commentary ei stori gyntaf. Pan gyflwynodd hi stori i The New Yorker nesaf, roedd yn cynnwys nodyn, gan ddweud, "Pwy sydd yno yn The New Yorker - rwy'n gwybod bod yna bensil sy'n ymddiheuro ar waelod fy slip gwrthod." Y tro hwn, cyrhaeddodd llythyr derbyn, ynghyd â chynnig i Segal ysgrifennu cyfres o straeon am ffoaduriaid. Byddai hi wedyn yn troi'r cyfresi hwn yn nofel, ei nofel gyntaf, Other People Houses.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Nofelau[golygu | golygu cod]

  • Other People's Houses (1964)
  • Lucinella (1976)
  • Her First American (1985)
  • Shakespeare's Kitchen (2007)
  • Half The Kingdom (2013)

Storiau byrion[golygu | golygu cod]

  • Burglars in the Flesh (1980)
  • A Wedding (1981)
  • The First American (1983)
  • An Absence of Cousins (1987)
  • The Reverse Bug (1989)
  • At Whom the Dog Barks (1990)
  • William's Shoes (1991)
  • Fatal Wish (1991)
  • Other People's Deaths (2006)
  • The Arbus Factor (2007)
  • Making Good (2008)
  • Spry for Frying (2011)
  • Ladies' Lunch (2017)

Cyfieithiadau[golygu | golygu cod]

  • Gallow Songs of Christian Morgenstern (1967)
  • The Juniper Tree and Other Tales from Grimm (1973)
  • The Book of Adam to Moses (1987)
  • The Story of King Saul and King David (1991)

Llyfrau plant[golygu | golygu cod]

  • Tell Me a Mitzi (1970)
  • All the Way Home (children's book)|All the Way Home (1973)
  • Tell Me a Trudy (1979)
  • The Story of Old Mrs. Brubeck and How She Looked for Trouble and Where She Found Him (1981)
  • The Story of Mrs. Lovewright and Purrless Her Cat (1985) (Illustrated by Paul O. Zelinsky)
  • Morris the Artist (2003)
  • Why Mole Shouted and Other Stories (2004)
  • More Mole Stories and Little Gopher, Too (2005)

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1965), Theodor Kramer prize (2018) .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. A Conversation with Lore Segal, The Missouri Review http://www.missourireview.org/content/dynamic/text_detail.php?text_id=1834 Archifwyd 2011-07-27 yn y Peiriant Wayback.
  2. Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 12 Awst 2015.
  3. Dyddiad geni: "Lore Segal". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Lore Segal". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. (yn en) Internet Movie Database, Wikidata Q37312, https://www.imdb.com/, adalwyd 21 Mehefin 2019
  4. AHC Interview with Lore Segal, Center for Jewish History http://access.cjh.org/home.php?type=extid&term=413699#1 Archifwyd 2018-10-21 yn y Peiriant Wayback.