The Lord of the Rings

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Lord of the Rings)
Jump to navigation Jump to search
The Lord of the Rings
Jrrt lotr cover design.jpg
Dyluniadau cloriau Tolkien ar gyfer y tair cyfrol
Awdur J. R. R. Tolkien
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Math Ffantasi arwrol,
Nofel antur
Cyhoeddwr Geo. Allen & Unwin
Dyddiad cyhoeddi 1954 a 1955
Rhagflaenwyd gan The Hobbit

Nofel ffantasi arwrol a ysgrifennwyd gan yr academydd Seisnig J. R. R. Tolkien yw The Lord of the Rings (Cymraeg: Arglwydd y Modrwyau). Dechreuodd y stori fel dilyniant i lyfr ffantasi blaenorol Tolkien, The Hobbit (Yr Hobit yn Gymraeg[1]), ond datblygodd i fod yn stori llawer mwy. Ysgrifennwyd y nofel fesul cam rhwng 1937 a 1949, a llawer ohoni yn cael ei greu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er i Tolkien fwriadu cynhyrchu gwaith un gyfrol, cyhoeddwyd y llyfr yn wreiddiol mewn tair cyfrol ym 1954 a 1955, ac yn y ffurf tair cyfrol hon yr adwaenir yn boblogaidd. Ers hynny, cafodd y nofel ei hailargraffu nifer o weithiau, a'i chyfieithu i o leiaf 38 o ieithoedd, gan ddod yn un o weithiau llenyddiaeth fwyaf poblogaidd yr 20g. Hyd yn hyn, er hynny, ni chyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg.

Crynodeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae stori Lord of the Rings yn digwydd mewn amser a lle dychmygol, sef Trydedd Oes y Canol Fyd (h.y. "the Third Age of Middle-earth"). Mae'r tirwedd naturiol yn debyg i'n daear ni, yn hytrach na phlaned arallfydol. Dywedodd Tolkien ei hun mai ein daear ni tua 6000 o flynyddoedd yn ôl yw'r lleoliad, er bod y gyfatebiaeth ddaearyddol a hanesyddol â daearyddiaeth a hanes y byd go iawn yn denau. Poblogir tiroedd y Canol Fyd gan Ddynion a hilion dynol eraill o'r enw Hobitiaid[1], Ellyllon, Corachod ac Orchod (Orcs). Mae'r stori yn canoli ar y Fodrwy Grym a wnaed gan yr Arglwydd Tywyll Sauron. Yn cychwyn o ddechreuadau tawel yn y Sir (Shire), mae'r stori yn crwydro dros Ganol-ddaear ac yn dilyn Rhyfel y Fodrwy trwy lygaid ei gymeriadau, yn arbennig y cymeriad canolog Frodo Baggins. Dilynir y brif stori gan chwe atodiad sy'n darparu toreth o ddeunydd cefndirol, hanesyddol ac ieithyddol.

Dylanwadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ynghyd ag ysgrifeniadau eraill Tolkien, dadansoddwyd Lord of the Rings yn helaeth yn nhermau ei wreiddiau a themâu llenyddol. Er bod y gwaith ei hun yn un pwysig, y symudiad olaf yn unig o chwedloniaeth yr oedd Tolkien wedi gweithio arni ers 1917 yw'r stori. Mae dylanwadau ar y gwaith blaenorol hwn, ac ar stori Lord of the Rings, yn cynnwys ieitheg, mytholeg, diwydiannaeth a chrefydd, yn ogystal â gweithiau ffantasi blaenorol a phrofiadau Tolkien yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ystyrir hefyd bod Lord of the Rings, yn ei dro, wedi cael effaith o bwys ar ffantasi modern.

Poblogrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae poblogrwydd aruthrol a pharhaol Lord of the Rings wedi arwain at nifer o gyfeiriadau mewn diwylliant poblogaidd, sefydliad llawer o gymdeithasau gan gefnogwyr gweithiau Tolkien, a chyhoeddiad llawer o lyfrau am Tolkien a'i weithiau. Mae Lord of the Rings wedi ysbrydoli (ac yn dal i ysbrydoli) gweithiau celfyddyd, cerddoriaeth, ffilmiau a theledu, gemau fideo a llenyddiaeth ddilynol. Gwnaethpwyd addasiadau o Lord of the Rings ar gyfer radio, theatr a ffilm. Yn dilyn rhyddhau cyfres lwyddiannus dros ben o dair ffilm Lord of the Rings rhwng 2001 a 2003 cododd ton newydd o ddiddordeb yn Lord of the Rings a gweithiau eraill Tolkien.

Nododd Tolkien fod llawer o'r enwau yn y llyfr wedi eu seilio ar yr iaith Gymraeg.

Y Llyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 The Welsh Academy English-Welsh Dictionary, argraffiad Bruce Griffiths & Dafydd Glyn Jones