Lochnagar

Oddi ar Wicipedia
Lochnagar
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol y Cairngorms Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Uwch y môr1,155 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.9599°N 3.2448°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd670 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaBen Macdhui Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynyddoedd y Grampians Edit this on Wikidata
Map

Mae Lochnagar yn fynydd a geir ar y daith o Braemar i Monadh Rois (Montrose) ym Mynyddoedd y Grampians yn yr Alban; cyfeiriad grid NO243861. Ystyr y gair ydy "y llyn bychan gyda'r sŵn mawr" - Lochan na Gaire. Yr enw Gaeleg ar y copa ydy Cac Carn Beag sef "Carnedd Fechan o Gachu"; ceir ail enw Gaeleg am y copa hwn sef: Beinn Chìochan ("Mynydd y Bronnau").

Dosberthir mynyddoedd yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro ac yn Murdo. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1]

Mae'n fynydd poblogaidd gan gerddwyr a'r man cychwyn gan amlaf ydy Glen Muick.

Rhai copaon[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]