Neidio i'r cynnwys

Loch Leven (yr Ucheldiroedd)

Oddi ar Wicipedia
Loch Lìobhann
Mathcilfach Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau56.6906°N 5.1183°W Edit this on Wikidata
Map
Peidiwch â chymysgu y corff dŵr hwn â Loch Leven (Kinross), llyn dŵr croyw yn Iseldiroedd yr Alban.

Cilfach ar arfordir gorllewinol yr Alban ym mhen draw dyffryn Glen Coe[1] yw Loch Leven (Gaeleg yr Alban: Loch Lìobhann). Mae Afon Coe yn llifo i Loch Leven ar ôl gadael Loch Achtriochtan.

Mae Loch Leven tua 14 cilomedr o hyd, gan amrywio o ran lled rhwng 200 metr ac 1.8 km. Ym mhen gorllewinol y gilfach, mae Loch Leven yn ymuno â Loch Linnhe, gilfach arall.

Saif pentref Glencoe ar lan ddeheuol y loch, a phentref Kinlochleven y lan ddwyreiniol. Mae ynys anghyfannedd Eilean Munde yn safle capel hynafol.[2] Mae wyth ynys fechan arall yn y llyn.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Extract from Scottish Natural Heritage Commissioned Report No.374" (PDF) (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2014.
  2. "Eilean Munde, St Mund's Chapel". RCAHMS (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-17. Cyrchwyd 24 Mai 2025.