Loch Katrine
Gwedd
| Math | llyn, cronfa ddŵr |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Llyn Llumonwy a'r Trossachs |
| Sir | Stirling |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 12.4 km² |
| Cyfesurynnau | 56.2544°N 4.5156°W |
| Hyd | 12.9 cilometr |
![]() | |
Llyn gerllaw Stirling yn yr Alban yw Loch Katrine (Gaeleg: Loch Ceiterein). Mae'n llyn hir, cul, tua 13 km o hyd a 1 km o led, yn ymestyn ar hyd Srath Ghartain. Gan ei fod o fewn cyrraedd i Glasgow a dinasoedd eraill, mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, a cheir teithiau llong ar y llyn.
Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn sy'n un o brif gronfeydd dŵr Glasgow; adeiladwyd yr argae (o tua 6 troedfedd) i godi ei lefel. Ganed yr herwr Robert Roy MacGregor ger glan y llyn, a hwn yw'r llyn yn nofel Walter Scott The Lady of the Lake.
