Llywodraethiaeth Jericho
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | llywodraethiaethau Palesteina ![]() |
Poblogaeth | 42,320, 32,713, 54,289 ![]() |
Gwlad | ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina ![]() |
Rhanbarth | Gwladwriaeth Palesteina ![]() |
![]() |
Mae Llywodraethiaeth Jericho (Arabeg: محافظة أريحا Muḥāfaẓat Arīḥā; Hebraeg: נפת יריחו, Nafat Yeriħo) yn un o 16 Llywodraethiaethau Palestina. Fe'i lleolir ar hyd ardaloedd dwyreiniol y Lan Orllewinol, ar hyd y ochr ogleddol y Môr Marw a dyffryn deheuol afon Iorddonen sy'n ffinio â Gwlad Iorddonen. Mae'r llywodraethiaeth yn rhychwantu i'r gorllewin i'r mynyddoedd i'r dwyrain o Ramallah a llethrau dwyreiniol Jerwsalem, gan gynnwys rhannau gogleddol Anialwch Jwdeaia. Y brifddinas yw dinas hynafol Jericho. Amcangyfrifir bod poblogaeth Llywodraethiaeth Jericho yn 50,002, gan gynnwys 13,334 o ffoaduriaid Palesteinaidd yng ngwersylloedd y llywodraethiaeth.[1]
Gwerddon yn Ardal Jericho yw Parc Elishia (a elwir hefyd yn Ffynnon Elisee ac Ein el-Sultan) sy'n gartref i berllannau, llwyni palmwydd, planhigfeydd banana a fflora eraill.[2]
Demograffeg[golygu | golygu cod]
Mae'r boblogaeth ar gyfartaledd yn ifanc iawn ac mae tua 37.2% yn iau na 15 oed, a dim ond 3.3 y cant sydd dros 65 oed. Yn 2017, roedd 99.4% o'r boblogaeth yn Fwslim a 0.6% yn Gristnogion neu fel arall. Ni chynhwyswyd preswylwyr aneddiadau Iddewig. Roedd 69.4% o gyfanswm y boblogaeth yn ffoaduriaid yn yr un flwyddyn.
Cyfrifiad | Trigolion[3] |
---|---|
1997 | 32.713 |
2007 | 42.320 |
2017 | 50.002 |
Economi[golygu | golygu cod]
Mae amaethyddiaeth yn bwysig i economi'r llywodraethiaeth, yn enwedig yn y dyffryn ger y brifddinas, Jericho. Yn aml, ystyrir Jericho fel yr anheddiad hynaf yn y byd lle mae pobl yn byw ynddo. Mae'r nifer o safleoedd hanesyddol ac archeolegol yn denu nifer o dwristiaid i'r rhanbarth.
Mae amaethyddiaeth yn bwysig i'r economi yn yr ardal, yn enwedig yn y dyffryn ger Jericho, ei phrifddinas. Yn aml, ystyrir Jericho fel yr anheddiad parhaus hynaf yn y byd; mae ei nifer o safleoedd hanesyddol ac archeolegol yn denu nifer o dwristiaid i'r ardal.
Is-adranau Gweinyddol[golygu | golygu cod]
Dinasoedd[golygu | golygu cod]
Bwrdeistrefi[golygu | golygu cod]
- al-Auja
- al-Jiftlik
Pentrefi[golygu | golygu cod]
- Fasayil
- an-Nuway'imah
- Ein ad-Duyuk at-Tahta
- Ein ad-Duyuk al-Foqa
- az-Zubaidat
- Marj Al-Ghazal
Treflannau Ffoaduriaid[golygu | golygu cod]
- Aqabat Jaber
- Ein as-Sultan
Oriel[golygu | golygu cod]
Dolenni[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Main Indicators by Type of Locality - Population, Housing and Establishments Census 2017" (PDF). Palestinian Central Bureau of Statistics (PCBS). Cyrchwyd 2021-01-19.
- ↑ "Laureates 1999". World Heritage Centre.
- ↑ Nodyn:Url=http://www.citypopulation.de/de/palestine/admin/ad daffah al gharbiyah/35 ariha/
- ↑ http://www.beibl.net/beibl-chwilio?pennod=4&book=BNET%3AMatt&viewid=BNET%3AMatt.4&newwindow=BOOKREADER&math=