Llysywen Bendoll y Môr

Oddi ar Wicipedia
Llysywen Bendoll y Môr
Llun y rhywogaeth
Map
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Cephalaspidomorphi
Urdd: Petromyzontiformes
Teulu: Petromyzontidae
Genws: Petromyzon
Rhywogaeth: P. marinus
Enw deuenwol
Petromyzon marinus
Linnaeus 1758

Pysgodyn sy'n byw yn y môr ac mewn dŵr croyw ac sy'n perthyn i deulu'r Petromyzontidae ydy'r Llysywen Bendoll y Môr sy'n enw benywaidd; lluosog: llysywod pendoll y môr (Lladin: Petromyzon marinus; Saesneg: Sea lamprey).

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Ewrop, America, y Môr Canoldir a Chefnfor yr Iwerydd. Mae'n bysgodyn dŵr hallt a dŵr croyw ac mae i'w ganfod ar adegau yn aberoedd ac arfordir Cymru.

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]

Ceg Llysywen Bendoll y Môr

Cylch Bywyd[golygu | golygu cod]

(Addasiad o adroddiad Walter Hanks, Cyfoeth Naturiol Cymru) Enw y pysgodyn anhygoel hwn yw 'Llysywen Bendoll yr Mor' neu yn saesneg 'Sea Lamprey'. Mae’ r llysywen yma yn un arbennig iawn hefo gofynion arbennig er mwyn cwblhau ei gylch bywyd. Maint oedolyn yw rhwng 60–85 cm ag yn bysgodyn cryf a thrwchus. Mae’r oedolion yn treulio peth amser (1+ blwyddyn) yn bwydo ar bysgod fel Penfras, Eog, Mecryll, Corbenfras, Cegddu ag hefyd pysgod llawer mwy fel Basking Shark yn y mor mawr. Mae gan y llysywen yma geg arbennig, nid oes ganddo gennau, ond yn hytrach 'sugnydd' yn llawn o ddannedd miniog. Gyda hwn mae'n sugno’r maeth o’r pysgod mae'n ei ddal ag yn eu lladd yn amal. Wedi tyfu i’r maint cywir er mwyn magu, maen nhw yn dychwelyd ir afonydd lle ei magwyd, i fynd drwy y broses ei hunain. Mae rhaid ir pysgod yma cael dwr ffres glân croyw a lle gwelir rhain, mi fedrwch fod yn saff bod yr dwr o safon da. Wedi cyrraedd yn ôl i ddŵr ffres, mi wneith y llysywod aros yn ngwaelodion yr afon lle mae hi'n ddwfn, yn fano mi wnan baru, benyw efo gwryw. Mewn ychydig mi wnan symud i fynu’r afonydd fel pâr; fe gwelwch hyn yn digwydd a does dim newid ar eu hawydd i gwblhau y dasg o symud i fyny’r afon.

Wedi cyrraedd y man priodol fe wnan gymeryd dyddiau i adeiladu nyth o gerrig, symud yr holl cerrig hefo’u cegau i ffurfio siap U anfferthol a chysidro maint y pysgod eu hunan. Mae’r llafur yma yn galed ac fe welwch hoel creithiau a difrod ar gyrff y creaduriad. Ond nid oes aros, ymlaen a nhw.

Mi wnan osod eu wyau llawer iawn o weithiau yn y nyth, dwi wedi cyfri un par yn gosod wyau 15 gwaith tra roeddwn yn ei gwylio a does wybod faint oeddant wedi claddu cyn i fi gyrraedd ag hefyd oeddant dal i fod wrthi pam nes i adael. Mae un fenyw yn gallu gosod hyd at 200,000 - 240,000 o wyau.

O fewn ychydig iawn (oriau yn unig) o orffen claddu’r wyau, mi wneith y gwrw ar fenyw farw. Yr adeg honno fydd Dyfrgwn yn eu dal pan maen nhw ar ei gwanaf a dwi wedi gweld sawl corff wedi eu bwyta gan Ddyfrgi ar lannau’r afonydd yn ystod amser magu.

Fe ddeora’r wyau mewn pythefnos, a thriga’r ifanc yn y mwd a gro mân ar ymylon dwr llonydd, yn byw jest fel pryf genwair. Arhosant yno hyd at 5 mlynedd ag wedyn yn newid eu ffurf pan yn cyraedd maint 15–20 cm. Felly wedyn, mi wneith yr holl beth ail ddechrau gyda’r creaduriad yma yn gwneud eu ffordd i’r môr mawr i fwydo.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan www.marinespecies.org; adalwyd 4 Mai 2014