Llysiau'r afu

Oddi ar Wicipedia

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu ("Cymorth – Sain" ynganiad ) neu llysiau'r iau (lluosog ac unigol; weithiau llys yr afu neu llys yr iau yn yr unigol). Mae tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu darganfod hyd yn hyn.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Maent yn blanhigion syml heb feinwe fasgwlaidd neu wreiddiau go iawn.[3] Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg. Mae rhywogaethau eraill yn tyfu fel thalws gwastad heb goesyn a dail.

Fe'u rhennir i dri Dosbarth, o ran tacson, sef: Haplomitriopsida, Marchantiopsida a Jungermanniopsida.

Perthynas â phlanhigion eraill[golygu | golygu cod]

Yn draddodiadol, grwpiwyd Llysiau'r afu gyda bryoffidiau eraill (sef mwsoglau a chyrnddail) yn y Rhaniad (neu "Ffylwm") a elwir yn "Bryophyta". Oddi fewn i'r rhaniad hwn galwyd y Dosbarth o lysiau'r afu yn "Hepaticae" (a hefyd yn "Marchantiopsida").[3][4] Fodd bynnag, gan fod hyn yn gwneud y grwp Bryophyta yn baraffiletig (paraphyletic), rhoir Rhaniad cyfan i'r grŵp, bellach.[5] Wrth gwrs, mae'r hen enw Bryophyta yn parhau rhwng cloriau llyfrau, ond erbyn heddiw, mae'r gair Bryophyta yn cynnwys mwsoglau'n unig.

Llysiau'r afu yn Kunstformen der Natur gan Ernst Haeckel.

Y rheswm arall dros roi Rhaniad cyfan i lysiau'r afu yw ei bod yn ymddangos iddynt rannu oddi wrth yr embryoffytau ymhell yn ôl, yn y cyfnod pan roedd esblygiad planhigion ar gychwyn. Nhw yw'r unig grwp o blanhigion tir nad oes ganddynt stomata yn y cyfnod Sporophyte.[6] Cafwyd hyd i ffosiliau o lysiau'r afu (y math Pallaviciniites) yn Efrog Newydd[7], sy'n hynod o debyg i'r Metzgeriales modern.[8] Cafwyd hyd, hefyd, i ffosil arall, sef y Protosalvinia, o'r un cyfnod, sef y cyfnod Defonaidd Uchaf. Yn 2017 cafwyd hyd i ffosil o'r math Metzgeriothallus sharonae, eto yn Efrog Newydd, ac a ddyddiwyd i ganol y cyfnod Defonaidd.[9] Ond y ffosiliau hynaf, hyd yma (2019) yw'r 5 math gwahanol o sborau llysiau'r afu, a ganfuwyd yn yr Ariannin yn 2010, ac sy'n perthyn i'r cyfnod Ordofigaidd, ac a ddyddiwyd i tua 470 miliwn o flynyddoedd CP.[10][11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Stotler, Raymond E. & Barbara J. Crandall-Stotler (2010). Liverwort Classification at the Rank of Genus and Above. Adalwyd ar 3 Hydref 2010.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
  3. 3.0 3.1 Schofield, W. B. Introduction to Bryology, pages 135-140. (Efrog Newydd: Macmillan, 1985). ISBN 0-02-949660-8.
  4. Crandall-Stotler, Barbara. & Stotler, Raymond E. "Morphology and classification of the Marchantiophyta". page 36-38 in A. Jonathan Shaw & Bernard Goffinet (Eds.), Bryophyte Biology. (Cambridge: Cambridge University Press:2000). ISBN 0-521-66097-1
  5. Goffinet, Bernard. "Origin and phylogenetic relationships of bryophytes". pages 124-149 in A. Jonathan Shaw & Bernard Goffinet (Eds.), Bryophyte Biology. (Cambridge: Cambridge University Press:2000). ISBN 0-521-66097-1
  6. Kenrick, Paul & Peter R. Crane. The Origin and Early Diversification of Land Plants: A Cladistic Study, tudalen 59. (Washington, D. C.: Smithsonian Institution Press, 1997). ISBN 1-56098-730-8.
  7. Taylor, Thomas N. & Edith L. Taylor. The Biology and Evolution of Fossil Plants, page 139. (Englewood Cliffs, NJ: Prentice Hall, 1993). ISBN 0-13-651589-4.
  8. Oostendorp, Cora. The Bryophytes of the Palaeozoic and the Mesozoic, tudalennau 70-71. (Bryophytum Bibliotheca, Band 34, 1987). ISBN 3-443-62006-X.
  9. VanAller Hernick, L.; Landing, E.; Bartowski, K.E. (2008). "Earth’s oldest liverworts—Metzgeriothallus sharonae sp. nov. from the Middle Devonian (Givetian) of eastern New York, USA". Review of Palaeobotany and Palynology 148 (2–4): 154–162. doi:10.1016/j.revpalbo.2007.09.002.
  10. Walker, Matt. "Fossils of earliest land plants discovered in Argentina" [1]. (BBC, Earth News, 2010).
  11. Rubinstein, C.V.; Gerrienne, P.; De La Puente, G.S.; Astini, R.A.; Steemans, P. (2010). "Early Middle Ordovician evidence for land plants in Argentina (eastern Gondwana)". New Phytologist 188 (2): 365–369. doi:10.1111/j.1469-8137.2010.03433.x. PMID 20731783Nodyn:Inconsistent citations

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato