Llys Archwilwyr Ewrop
Pumed sefydliad yr Undeb Ewropeaidd yw Llys Archwilwyr Ewrop. Er gwaethaf ei enw, nid oes ganddo rym barnwrol fel y Llys Cyfiawnder. Yn lle hynny, mae'n sicrhau bod arian cyhoeddus o gyllideb yr Undeb Ewropeaidd wedi cael ei wario yn gywir. Yn enwedig, mae'r llys yn darparu adroddiad archwilio ar gyfer pob blwyddyn ariannol i'r Cyngor a Senedd Ewrop. Mae'r Senedd yn defnyddio'r adroddiad hwn i benderfynu a ddylai gymeradwyo trin y gyllideb gan y Comisiwn. Mae'r llys hefyd yn rhoi barnau a chynigion ynghylch deddfwriaeth ariannol a gweithredoedd gwrth-dwyll.
Llys Archwilwyr Ewrop yw'r unig sefydliad na soniwyd amdano yn y cytundebau gwreiddiol, gan ei fod yn cael ei sefydlu ym 1975. Fe'i crëwyd fel sefydliad annibynnol oherwydd sensitifrwydd y mater o dwyll o fewn yr Undeb. Mae'n cynnwys un aelod o bob Gwladwriaeth, wedi'i benodi gan y Cyngor bob chwe blynedd. Bob tair blynedd, etholir un ohonynt yn llywydd y llys; Hubert Weber sy'n dal y swydd hon ar hyn o bryd.
Cyswllt allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Llys Archwilwyr Ewrop Archifwyd 2007-10-15 yn y Peiriant Wayback