Llys-y-frân

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llys-y-frân
St Meilyr's church,Llys-y-fran - geograph.org.uk - 398552.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9°N 4.8°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN0424 Edit this on Wikidata

Pentref a phlwyf bach yng nghymuned y Mot ar lethrau deheuol Mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro, Cymru, yw Llys-y-Frân. Mae'r plwyf yn cynnwys anheddiad bach o'r enw Gwastad. Nodwedd nodedig Llys-y-Frân yw Cronfa Ddŵr a Pharc Gwledig Llys y Fran, atyniad poblogaidd i dwristiaid.

Enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r enw'n cynnwys y geiriau llys a brân. Mae'n ymddangos fel Llys-y-Frân ar fapiau'r Arolwg Ordnans a hefyd mewn deddfwriaeth,[1] a gwelir nifer o sillafiadau wedi'u cofnodi gan gynnwys Llysyfran, Llys-y-fran, Llys-y-Frân a Llys- y-Vrân.[2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae eglwys bresennol y plwyf yn dyddio o'r 12fed ganrif, a gwelir newidiadau a gwelliannau yn dyddio o'r canrifoedd dilynol. Mae wedi'i chysegru i St Meilyr, sant Celtaidd o'r 6ed ganrif. Roedd Llys y Frân yn wreiddiol yn gapeliaeth; yn yr 16eg ganrif fe'i rheolwyd gan amrywiol dirfeddianwyr yn yr ardal, ond mae'n ymddangos (Llisvrayne) fel plwyf ar fap 1578.[3] Mae gan yr eglwys ddwy gloch ac mae'r dyddiad 1632 ar un ohonynt. Daeth yn eglwys y plwyf erbyn 1833. [4] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.

Roedd y plwyf[5] yng Nghantref hynafol Daugleddau yn Esgobaeth Tŷ Ddewi. Ym 1833, 202 oedd y boblogaeth, ac roedd mwyafrif y plwyf yn dir amaethyddol a phorfa.[2] Mae plwyf Llys y Fran yn cynnwys pentrefan Gwastad, lle bu capel Methodistaidd Calfinaidd er 1836.[2]

Efallai y safai castell pren i'r gogledd o'r eglwys, ond mae'n bosibl fod y gweddillion wedi'u dinistrio pan adeiladwyd argae'r gronfa ddŵr. Enw'r safle yw'r Castell (y Castell). [6]

Yn 1887 tyfodd maint y plwyf i 1,466 acr (593 ha) ac roedd ganddo boblogaeth o 194.[7]

Ganwyd yr athro a'r cyfansoddwr William Penfro Rowlands (1860-1937) yn Llys-y-Frân. [8]

Nid oes cofeb ryfel ar y cyd i unigolion yr ardal.[9]

refer to caption
Argae Cronfa Llys y Fran ym 1972

Adeiladwyd argae Llys-y-Frân rhwng 1968 a 1972 gan Syr Lindsay Parkinson a'i gwmni Cyf. Mae'r gronfa ddŵr yn gorchuddio 212 acr (86 ha) ac fe'i hamgylchynir gan Barc Gwledig glaswelltir a choetir o 350 acr (140 ha). Mae hyn yn cynnwys ardal y gronfa ddŵr. Fe'i rheolir gan Dŵr Cymru ac mae'n un o 81 cronfa ddŵr yng Nghymru.[10][11] Mae'r argae yn 100 troedfedd (30 m) o uchder ac mae'r llyn yn cael ei fwydo gan Afon Syfynwy (neu Syfni) sydd hefyd yn bwydo Cronfa Ddŵr Rosebush ychydig filltiroedd i fyny'r afon i'r gogledd-ddwyrain.[12]

Yn 2008, ail-luniwyd a chwblhawyd cynllun trydan dŵr, gan godi'r allbwn pŵer i 26 kW ar gyfartaledd ; roedd y tyrbin gwreiddiol yn cynhyrchu gryn dipyn yn llai.[13] Yn 2017 cyhoeddodd Dŵr Cymru fuddsoddiad o £ 4 miliwn i wella cyfleusterau’r parc, ac roedd y gwaith i’w gwblhau yn 2019,[14] [15] ond yn 2019 gohiriwyd y prosiect pan aeth y cwmni adeiladu i ddwylo’r gweinyddwyr.[16] Penodwyd cwmni adeiladu newydd, a bwriadwyd i'r gwaith gael ei gwblhau yn 2020, a than hynny roedd y parc a'r gronfa ddŵr yn parhau ar gau.[17] Agorwyd y prosiect ailddatblygu a'r ganolfan weithgareddau awyr agored ym 2021.[18]

Mwynderau Cronfa Ddŵr a Pharc Gwledig[golygu | golygu cod y dudalen]

Cronfa Ddŵr a Pharc Gwledig

Mae'r llwybr sydd yn amgylchynu'r parc yn 6.5 milltir (10.5 km) o hyd ac yn addas i gerddwyr a beicwyr.[10] [11] Mae yna hefyd llwybr 1.5 milltir (2.4 km) sydd yn addas i deuluoedd, ac mae beiciau ar gael i'w llogi.[19]

Mae'r gronfa yn bysgodfa bwysig yn Ne Orllewin Cymru, ac mae wedi cynnal cystadlaethau pysgota cenedlaethol a rhyngwladol. Mae pysgota gyda phlu neu abwyd, o'r marc neu'r cwch, yn bosibl. Mae'r llyn yn llawn o frithyll brown a seithliw.[20]

Mae hwylio, hwylfyrddio, rhwyfo a chanŵio i gyd yn digwydd ar y gronfa ddŵr, gyda nifer o offer ar gael i'w llogi.[21] Cynhaliodd y parc Bencampwriaethau Cychod y Ddraig Gymreig yn 2014, 2015, [22] 2016[23] a 2017.[24]

Mae Llys-y-Frân Hillclimb yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei redeg gan Glwb Moduron Abertawe.[25]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "The Preseli (Communities) Order 1987". legislation.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Hydref 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 "GENUKI: Llysyfran". Cyrchwyd 1 Mai 2015.
  3. "Penbrok comitat". British Library. Cyrchwyd 9 Awst 2019.
  4. "St Meilyr's Church - History". Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2014.
  5. "GENUKI: Parish map (51)". Cyrchwyd 1 Mai 2015.
  6. "Gatehouse: Y Castell, Llys y Fran" (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Hydref 2019.
  7. "A Vision of Britain through time" (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2014.
  8. "Public Monument and Sculpture Association National Recording Project" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-05.
  9. "West Wales War Memorial Project: Llys y Fran". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-07. Cyrchwyd 15 October 2019.
  10. 10.0 10.1 "Llys y Fran Reservoir and Country Park". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-14. Cyrchwyd 4 July 2014.
  11. 11.0 11.1 "Countryside Council for Wales - Llys-y-Fran Reservoir". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 July 2014. Cyrchwyd 4 July 2014.
  12. "Walking Pembrokeshire - Llys y Fran" (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2014.[dolen marw]
  13. "Llys y Fran Hydro Scheme Refurbishment". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 July 2014. Cyrchwyd 5 July 2014.
  14. "Go ahead for £4m Llys y Fran 'great water park' plans". BBC News. 8 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 31 December 2017.
  15. Jason Cooper (28 December 2017). "Rotary club delighted by Llys y Fran investment". The Pembrokeshire Herald (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2017.
  16. Ruth Davies (7 Mehefin 2019). "Llys-y-Fran £4m project on hold after Welsh Water contractors in administration". Western Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
  17. "New contractors start work on Llys-y-Fran redevelopment". Tivyside Advertiser (yn Saesneg). 11 Hydref 2019. Cyrchwyd 12 Hydref 2019.
  18. "Paul Davies MS: Local MS Visits Llys-y-Frân Reservoir" (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2021.
  19. "Cycle Pembrokeshire - Llys y Fran" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-11. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2014.
  20. "Pembrokeshire Coast National Park - Llys y Fran" (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2014.
  21. "Reservoir Guide" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 14 July 2014. Cyrchwyd 5 July 2014.
  22. "Llys y Fran welcomes the return of the dragon". Western Telegraph. 25 May 2015. Cyrchwyd 1 March 2016.
  23. "Country Park welcomes Welsh Dragonboat Championships". BBC News. 29 May 2016. Cyrchwyd 29 May 2016.
  24. "Hear the dragons roar at rowing championship tomorrow". Milford Mercury. 27 May 2017. Cyrchwyd 27 May 2017.
  25. "Llys-Y-Fran Hillclimb Guide". Cyrchwyd 26 February 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]