Llyn y Wrach
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | ![]() |

Llyn bychan ydy Llyn y Wrach, ger Dwygyfylchi, Sir Conwy. Ceir carnedd gylchog o Oes yr Efydd ychydig i'r gogledd o'r llyn (cyfeiriad grid SH746758) yn ogystal â safle tŷ crwn cynhanesyddol gerllaw.
Henebion[golygu | golygu cod]
Math o garnedd gynhanesyddol a godwyd gan y Celtiaid ydy “carnedd gylchog”. (Saesneg: ring cairn); fe'i codwyd i nodi mangre arbennig, ar gyfer defodau neu i goffau'r meirw, a hynny yn Oes yr Efydd, mae'n debyg.
Ni ddylid cymysgu'r math hwn gyda chylch cerrig, sy'n perthyn i oes wahanol. Caiff ei nodi ar fapiau'r Ordanance gyda'r gair 'Cairn'. Sylwer, hefyd, mai “carnedd gylchog” ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio yng ngeiriadur yr Academi, yn hytrach na "charnedd gylch".
Cofrestrwyd yr heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: CN260.[1]