Llyn Vostok

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Vostok
Lake Vostok Sat Photo color.jpg
Math rift lake, subglacial lake Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Vostok Station Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ardal Cytundeb Antartig Edit this on Wikidata
Arwynebedd 15,690 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 77.5°S 106°E, 77.39°S 104.75°E Edit this on Wikidata
Hyd 250 cilometr Edit this on Wikidata

Llyn tanrewlifol yn yr Antarctig yw Llyn Vostok (Rwseg, yn golygu "dwyrain"). Ef yw'r mwyaf o tua 140 o lynnoedd tanrewlifol yn yr Antarctig, 15,690 km² o ran arwynebedd. Saif tua 4,000 medr oddi tan y rhew, oddi tan Gorsaf Vostok, gorsaf ymchwil Rwsiaidd yn y rhan o'r Antarctig a hawlir gan Awstralia.

Mae tymheredd dyfroedd y llyn tua -3 °C, ond nid yw'n rhewi oherwydd pwysau'r rhew uwch ei ben. Cynhesir gwaelod y llyn gan wres geothermal o du mewn y ddaear.