Llyn Titicaca

Oddi ar Wicipedia
Llyn Titicaca
Mathllyn, monomictic lake, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPuno Department, La Paz Department Edit this on Wikidata
GwladPeriw, Bolifia Edit this on Wikidata
Arwynebedd8,372 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3,812 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau15.825°S 69.325°W Edit this on Wikidata
Dalgylch56,270 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd204 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar, Tentative World Heritage Site, Tentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion

Llyn Titicaca yw'r llyn uchaf y sy'n fordwyol yn y byd. Mae'r llyn 3,812m (12,507 troedfedd) uwchben lefel y môr ac wedi ei leoli yn uchel yn yr Andes ar y ffin rhwng Periw a Bolifia (16°De, 69°Gor). Ei ddyfnder cyfartalog yw 107m, a'i ddyfnder mwyaf yw 281m. Mae ardal orllewinol y llyn yn berchen i ranbarth Puno Periw, ac mae'r ardal ddwyreiniol yn rhan o adran La Paz Bolifia.

Ynysoedd[golygu | golygu cod]

Llyn Titicaca o ochr Bolifia

Los Uros[golygu | golygu cod]

Mae'r ynysoedd Uros yn grŵp o tua 43 ynys artiffisial wedi eu ffurfio'n hollol gan weu cawn sy'n arnofio ar y llyn. Mae'r ynysoedd yn atyniad twristaidd mawr i Periw, gyda nifer fawr o ymwelwyr yn trefnu gwibdeithiau ar gychod o lannau'r llyn i'r ynysoedd yma.

Taquile[golygu | golygu cod]

Mae ynys Taquile yn denu twristiaid bob blwyddyn ar gyfer gwyliau a dathliadau'r brodorion. Mae'r ynys hefyd yn enwog am gynhyrchion tecstilau'r bobl yna. Mae traddodiadau gweu pobl yr ynys wedi deillio o amseroedd gwareiddiad yr Inca (cyn-Sbaenaidd), a chan fod yr ynys wedi aros gan mwyaf yn arwahanol ers yr 1950au, mae nifer fawr o bobl yr ynys yn siarad Quechua, iaith frodorol Periw, yn ogystal â Sbaeneg.

Amantaní[golygu | golygu cod]

Mae Ynys Amantaní yn ynys 15 kilometr sgwâr cylchol gyda thua chwe phentref ar draws yr ynys a dau fynydd. Amantaní yw un o ynysoedd mwyaf Titicaca. Yn debyg i Taquile, bu'r ynys yn arwahanol o'r trefi ar lannau Titicaca tan yr 20g.

Isla Del Sol[golygu | golygu cod]

Mae Isla Del Sol ("Ynys yr Haul") wedi ei leoli ar ochr Bolifia Titicaca, ger Copacabana. Mae yna nifer o adfeilion Incaidd nodedig ledled yr ynys, ac felly mae economi'r ynys wedi ei sefydlu'n bennaf ar dwristiaeth yn ogystal â physgota.

Ffeithiau ychwanegol[golygu | golygu cod]

  • Mae llynges Bolifia yn defnyddio llyn Titicaca ar gyfer ymarferion llyngesol er nad oes gan Bolifia arfordir.
  • Llyn Maracaibo yn Feneswela yw'r unig "llyn" yn Ne America sy'n fwy na Titicaca, ond nid oes consensws bod Maracaibo yn llyn gwirioneddol, gan fod y dŵr yn rhannol hallt oherwydd cysylltiad i gwlff Feneswela ger Môr y Caribî.