Llyn Nadroedd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Nadroedd
Math llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Yr Wyddfa Edit this on Wikidata
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 1,741 Troedfedd Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Treweunydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.067477°N 4.098116°W Edit this on Wikidata

Llyn yn Eryri, Gwynedd, yw Llyn Nadroedd. Fe'i lleolir yng Nghwm Clogwyn yn uchel ar lethrau gorllewinol Yr Wyddfa tua milltir i'r gorllewin o'r copa.[1] Llyn bychan ydyw, 1,741 troedfedd i fyny.[2]

Llyn Nadroedd (cornel chwith isaf) gyda Llyn Cwellyn yn y cefndir, o'r Wyddfa

Mae'n llyn bychan gyda dŵr tywyll a dwfn. Mae'r tir o'i gwmpas yn gorsiog ac mae glan y llyn yn greigiog. Ymddengys nad oes pysgod ynddo.[2]

Llifa ffrwd o ben gogleddol y llyn i lifo i lawr i Afon Treweunydd sy'n llifo wedyn i Llyn Cwellyn. Tua chwarter milltir i'r dwyrain o Lyn Nadroedd ceir llyn bychan arall, sef Llyn Coch.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 115 Caernarfon a Bangor.
  2. 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 176.