Llyn Llygad Rheidol
![]() | |
Math | llyn, cronfa ddŵr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.473722°N 3.780023°W ![]() |
Rheolir gan | Dŵr Cymru ![]() |
![]() | |
Gorwedd Llyn Llygad Rheidol tua 540 metr i fyny mewn cwm ychydig i'r gogledd o gopa Pumlumon yng ngogledd-orllewin Ceredigion. Fel y mae'r enw yn awgrymu, y llyn hwn yw tarddle traddodiadol afon Rheidol.


Gorwedd y llyn yng Nghwm Llygad Rheidol yng nghesail ogleddol Pumlumon, rhwng creigiau Pumlumon Fach a Phumlumon Fawr ac ysgwydd foel Pencerrigtewion. Llifa ffrwd Nant y Llyn o'r llyn i lifo i lawr i gyfeiriad y gogledd-orllewin am filltir cyn ymuno yn afon Hengwm filltir cyn i'r ffrwd honno lifo i gronfa dŵr Nant-y-moch.
Fel rhan o waith trydan dŵr Nant-y-moch, codwyd argae ar draws pen gogleddol Cwm Llygad Rheidol ac mewn canlyniad mae lefel y llyn yn uwch o gryn dipyn heddiw.
Y ffordd hawsaf i gyrraedd y llyn yw trwy fynd ar hyd trac sy'n dringo o ben y lôn o bentref Ponterwyd ger argae Nant-y-moch.