Llyn Hiraethlyn

Oddi ar Wicipedia
Llyn Hiraethlyn
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,050 troedfedd Edit this on Wikidata
GerllawAfon Prysor Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.915739°N 3.87052°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Hiraethlyn. Fe'i lleolir tua 2.5 milltir i'r dwyrain o bentref Trawsfynydd ym Meirionnydd.

Saif y llyn hwn 1,050 troedfedd[1] i fyny 1 filltir i'r de o gopa Moel y Croesau uwchlaw Cwm Prysor. Llifa ffrwd allan o'i ben deheuol i lifo i Afon Prysor yng Nghwm Prysor llai na milltir yn is i lawr, i'r de o Gastell Prysor. Mae Afon Prysor yn llifo i Lyn Trawsfynydd.[2]

Llyn Hiraethlyn

Ceir draenogiaid (perch) yn y llyn.[1]

"Rhythlyn" yw'r enw ar yr hen fapiau Arolwg Ordnans. Yn 1698 cyfeiriodd y naturiaethwr Edward Lhuyd ato fel "Lhyn yr Ithlyn" ac mae'n dweud bod draenogiaid anghyffredin gyda cham rhyfedd yn eu cynffonau i'w cael yno.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.