Llyn Hafod-y-llyn
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanfair, Llanbedr ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 450 troedfedd ![]() |
Gerllaw | Afon Artro ![]() |
Cyfesurynnau | 52.84275°N 4.081783°W ![]() |
![]() | |
Llyn bychan yn ne Gwynedd yw Llyn Hafod-y-llyn (Hafod-y-llyn yn unig ar y map Arolwg Ordnans[1]). Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r de-orllewin o Harlech yn ardal Ardudwy, Meirionnydd. Uchder: 450 troedfedd.[2]
Saif y llyn hwn mewn ardal o fryniau isel sy'n rhan o fraich allanol y Rhinogydd ger arfordir Bae Ceredigion. O ben deheuol y llyn mae ffrwd yn llifo i gyfeiriad y de-orllewin i lifo i Afon Artro ger ei haber wrth ymyl Llandanwg.[1]
Chwedl[golygu | golygu cod]
Yn ôl y chwedl ganoloesol, daeth y Forwyn Fair ar ymweliad i Gymru gan lanio yn Llanfair; codwyd eglwys Llanfair ar y man lle glaniodd hi. Cerddodd Mair i'r llyn gyda'i morwynion. Ar ei ffordd yno penliniodd i yfed o ffrwd; gadwyd olion ei phengliniau ar y graig a ffrydiodd ffynnon o'r ddaear oedd â rhinweddau iachaol.
Pan gyrhaeddodd Mair y llyn ymdrochodd ei morwynion ynddo a byth ers hynny mae'r alaw (lili'r dŵr) wedi tyfu yno a chafwyd y llyn yr enw "Llyn yr Alaw".[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
- ↑ 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 144.