Llyn Gwynant

Oddi ar Wicipedia
Llyn Gwynant
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.048°N 4.022°W Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Mae Llyn Gwynant yn llyn yn Nant Gwynant yn Eryri, yng ngogledd Cymru.

Mae'r llyn yn cael ei ffurfio gan Afon Glaslyn sy'n llifo i lawr llethrau'r Wyddfa o Lyn Llydaw o'r gogledd cyn cyrraedd Llyn Gwynant. Mae'n llyn gweddol o ran ei faint, gydag arwynebedd o tua 50 ha. Mae ei lannau'n goediog ac eithrio ambell cae a phorfa eang ar ei ben gogleddol. Yn yr haf mae'n lle poblogaidd iawn gan ymwelwyr er mwyn hwylio a chanŵio.

Ar lan orllewinol y llyn cyfyd craig serth a choediog Penmaen-brith ac yn uwch i fyny mae Gallt y Wenallt, y cyntaf o gopaon Pedol yr Wyddfa.

Rhyw 2 km yn is i lawr y dyffryn mae llyn arall, Llyn Dinas, gyda phentref Bethania yn gorwedd rhwng y ddau lyn. Mae ffordd yr A498 yn pasio ar lan y llyn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995)