Llyn Gelli Gain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Gelli Gain
Math llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 1,100 Troedfedd Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Gain Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.87792°N 3.882712°W Edit this on Wikidata

Llyn bychan yn ne Gwynedd yw Llyn Gelli Gain. Fe'i lleolir tua 3 milltir i'r de-ddwyrain o Drawsfynydd yn ardal Meirionnydd. Saif 1,100 troedfedd i fyny.

Saif y llyn ger copa Moel Ddu i'r de o Gwm Prysor; llifa ffrwd o'r llyn i gyfeiriad y de i lifo i Afon Gain, un o lednentydd Afon Mawddach, yn is i lawr.[1]

Llyn Gelli Gain yn yr haf
Llyn Gelli Gain yn y gaeaf

Dyma hen gronfa dŵr Trawsfynydd ar un adeg.[2]

Cyfeiria'r hynafiaethydd a naturiaethwr Edward Lhuyd at y llyn yn 1698, gan ei alw'n "Lhyn Celligen". Mae'n dweud bod y llyn "yn llawn o benhwyaid a llyswennod o faint eithriadol o fawr"; ceir penhwyaid a llyswennod yno o hyd.[2]

Hanes llafar[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Llyn Gelli Gain (Llugan ar lafar) ym mhlwy Trawsfynydd yn 1,300' o uchder uwchben y môr; felly syndod oedd o i mi ddarllen mewn llyfr teithiau cerdded fod y lle'n enwog am lyswennod ers talwm (glywis i erioed mo hynny o'r blaen - penhwyad yn bendant, fel Llyn Peic oeddan i'n nabod y lle fel plant). Un nant fach sydd yn rhedeg ohoni i'r Afon Gain tua 450' yn îs i lawr yng Nghwm Dolgain - felly oes 'na bosibilrwydd fod llyswennod wedi bod yno rhyw dro.[3]

...At one time large eels were to be found in the lake for which it was famous. However today, it contains pike which weigh up to 8 pounds.

Stori arall cofiaf pan oedd y llyn wedi rhewi yw un am hela llwynog a'r cŵn hela wedi dal i fyny efo'r hen lwynog wrth lan y llyn. Mentrodd y blewyn coch dros y rhew ar cŵn yn ei ddilyn, ond roeddent yn rhy drwm i'r rhew a drwodd a nhw i'r dŵr gan adael i'r hen lwynog ddianc![4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
  2. 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 131.
  3. Des Marshall (2010) Walking to the Lakes of Mid & North Walestud15 (cyh. Kittiwake)
  4. Keith O'Brien: Grwp Facebook Cymuned Llên Natur[1]