Llyn Crych-y-waen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Crych-y-waen
Math llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Migneint-Arenig-Dduallt Edit this on Wikidata
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 1,352 Troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.849885°N 3.765275°W Edit this on Wikidata

Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Crych-y-waen (hefyd Llyn Crych-y-waun). Fe'i lleolir tua 4.5 milltir i'r gorllewin o bentref Llanuwchllyn ym Meirionnydd.

Saif y llyn bychan hwn 1,352 troedfedd[1] i fyny yn ardal gadwriaethol Migneint-Arenig-Dduallt, tua 1.5 milltir i'r gogledd o'r Dduallt. Mae'r tir o gwmpas y llyn yn gorsiog iawn ac mae sawl ffrwd yn ymuno ychydig yn is i lawr i'r llyn i ffurfio Afon Mawddach.[2]

Cofnodir yr enw fel "(Llyn) Krych-ar-y-Waun" mewn rhai hen lyfrau. Ar un adeg roedd y llyn yn llawn o frithyll ond erbyn yr 20g roedd ei faint wedi lleihau ac erbyn heddiw nid yw ond yn llyn bychan iawn yng nghanol cors eang gyda dim ond ychydig o bysgod ynddo.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.