Llyn Coniston

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tarth ar Lyn Coniston
Map 1925 Arolwg Ordnans o'r Llyn

Mae Llyn Coniston yn Ardal y Llynnoedd ac yn 5 milltir o hyd, hanner millter o led.[1] a dyfnder o 184 troedfedd. Mae pentref Coniston tua hanner milltir o'r llyn a cheir tair ynys.

Gwelir cwch stêm, neu Gondola, yn gweithio rhwng Mawrth a Thachwedd, sy'n eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.[2]

Llyn Coniston o'r gogledd

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Perchnogion y llyn yn 13eg a 14eg canrifoedd oedd mynachod Abaty Furness.[3] Mae tŷ John Ruskin, Brantwood, ar lan ddwyreiniol y llyn, ac yn agored i ymwelwyr. Prynodd Ruskin y tŷ ym 1871. Mae Amgueddfa Ruskin yn y pentref yn cynnwys arddangosfa am Syr Donald Campbell, a laddwyd ar 4ydd Ionawr 1967 tra'n ceiso am record y byd am gyflymder yn ei gwch Bluebird. Codwyd Bluebird o waelod y llyn ar 8fed Mawrth 2001, a darganfuwyd ei gorff ar 28ain Mai 2001. Fe'i claddwyd ym mynwent Coniston.[3]

Torrwyd record y byd ar ddŵr ar y llyn gan Syr Malcolm Campbell, tad Donald, ym 1939 efo cyflymder o dros 141 milltir yr awr.

Seiliwyd Swallows and Amazons gan Arthur Ransome]] ar y llyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. tudalen Coniston ar wefan Ardal y Llynnoedd
  2. [gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol]
  3. 3.0 3.1 gwefan visit Cumbria