Llyn Carsington

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Carsington gyda'r hwyr

Mae Llyn Carsington yn gronfa dŵr yn Swydd Derby. Defnyddir y llyn a’i lannau ar gyfer pysgota, hwylio, beicio, cerdded a gwylio ar adar.[1] Mae’n cymryd dŵr o Afon Derwent yn ystod y gaeaf, a rhyddhewir dŵr yn ôl i’r afon yn ystod yr haf. Mae’r llyn yn dal 35,412 megalitr o ddŵr. Agorwyd y gronfa ym 1992. Cost ei hadeiladu oedd £107 miliwn.[2]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]