Llyn Arenig Fawr

Oddi ar Wicipedia
Llyn Arenig Fawr
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru, Gwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9275°N 3.7167°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Arenig Fawr. Saif ychydig i'r de o Lyn Celyn, 405 metr (1329 troedfedd) uwch lefel y môr.

Mae Nant Aberderfel yn llifo o Lyn Arenig Fawr i Lyn Celyn. Defnyddir y llyn, sydd ag arwynebedd o 84 acer, fel cronfa ddŵr i gyflenwi dŵr i dref y Bala a'r cyffiniau; trowyd y llyn yn gronfa yn 1830. Mae ei ddyfnder yn 127 troedfedd yn y man dyfnaf.

Mae'r llwybr mwyaf poblogaidd i gopa Arenig Fawr yn mynd heibio'r llyn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato