Llymrïen
Gwedd
Llymrïen | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Perciformes |
Teulu: | Ammodytidae |
Genws: | Ammodytes |
Rhywogaeth: | A. tobianus |
Enw deuenwol | |
Ammodytes tobianus Linnaeus 1758 |
Pysgodyn sy'n byw yn y môr ac sy'n perthyn i deulu'r Ammodytidae ydy'r llymrïen sy'n enw benywaidd; lluosog: llymrïaid (Lladin: Ammodytes tobianus; Saesneg: Lesser sand eel).
Mae ei diriogaeth yn cynnwys Môr y Gogledd ac mae i'w ganfod ym Môr y Gogledd ac arfordir Cymru.
Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Heb ei gwerthuso' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth gan nad oes data digonol.[1]
Pysgota
[golygu | golygu cod]Llymriata
[golygu | golygu cod]Traddodiad o bysgota llymrïaid o'r traeth gydag offer syml ym Mhen Llŷn yw llymrïata. Dyma godnodion rhai o weithredwyr y grefft.
- 28 Mai 1915 Gorffan palu tatws diweddar. Hel llymriaid.
- 7 Meh 1917 Hel llymriaid, glaw a trannau. Dal salmon ar y gefnen. (Dyddiadur Griffith Thomas) ..ac mae nhw’n cadw’r traddodiad o hyd.....
- 7 Mai 2004 Codi 4 o'r gloch y bore i fynd i ddal llymriaid ar draeth Ty'n Tywyn. Roedd yn draddodiad yn Llyn i drigolion y pentrefi gwledig fynd i lawr i'r traethau tywod i ddal llymriaid. Dim ond ar y distyll tra mae'n gwawrio yn ystod mis Mai y mae dal llymriaid. Maent wedi eu claddu yn y tywod ac maent yn symud yn gyflym iawn. Buom ni'll dau yn palu am 2 awr i ddal digon ar gyfer un pryd i 5 ohonnom [www.rhiw.com].
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr o greaduriaid morol gwledydd Prydain
- Rhestr Goch yr IUCN, rhestr o greaduriaid wedi'u dosbarthu i 9 categori yn ôl niferoedd, prinder, cadwraeth ayb.
- Llwybr yr Arfordir
- Cadwraeth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014
- Gwefan Llên Natur; termau safonol.