Llyfrgell Genedlaethol yr Alban
| Math | llyfrgell genedlaethol, archifdy cenedlaethol, sefydliad di-elw, executive non-departmental public body |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Llywodraeth yr Alban |
| Lleoliad | Caeredin |
| Sir | Caeredin |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 55.9487°N 3.19173°W |
| Cod post | EH1 1EW |
![]() | |
Lleolir Llyfrgell Genedlaethol yr Alban (Gaeleg yr Alban: Leabharlann Nàiseanta na h-Alba, Saesneg: National Library of Scotland, Sgoteg: Naitional Leebrar o Scotland) yng Nghaeredin. Mae'n un o chwe llyfrgell adnau cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Delir yno dros 15 miliwn o eitemau argraffiedig, saith miliwn o lawysgrifau, dau filiwn o fapiau a thros 32,000 ffilm.[1]
Fe'i sefydlwyd yn 1925, yn seiliedig ar gasgliad Llyfrgell yr Adfocadau (Advocates Library neu Library of the Faculty of Advocates), a sefydlwyd yn y 1680au cynnar. O dan delerau Deddf Hawlfraint 1710 roedd y llyfrgell hon yn hawlio copi o bob llyfr a gyhoeddwyd yng ngwledydd Prydain. Yn dilyn y ddeddf seneddol a greodd y Llyfrgell Genedlaethol ym 1925, codwyd adeilad newydd ar ei chyfer ar George IV Bridge rhwng 1938 a 1956, gydag ysbaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Agorodd adeilad ychwanegol yn Causewayside mewn dau gam, ym 1989 ac ym 1995.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Collections. Llyfrgell Genedlaethol yr Alban. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2014.
- ↑ (Saesneg) Brief history of the National Library. Llyfrgell Genedlaethol yr Alban. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2014.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol
