Llyfrgell Genedlaethol Al-Assad

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Llyfrgell genedlaethol Syria yw Llyfrgell Genedlaethol Al-Assad (Arabeg: مكتبة الأسد الوطنية). Fe'i lleolir yn Damascus, prifddinas Syria. Cafodd ei enwi ar ôl Hafez al-Assad, Arlywydd Syria o 1970 hyd 2000 a thad yr arlywydd presennol Bashar al-Assad.

Fe'i sefydlwyd yn 1984 i ddal pob llyfr a chylchgrawn am Syria "a'i hetifeddiaeth ddiwylliannol hynafol", ac yna eu trefnu er budd ymchwilwyr ac ysgolheigion.[1] Mae'r adeilad, sy'n edrych dros y Sgwar Umayyad yng nghanol y ddinas, gydag arwynebedd o 22000 m², yn ymestyn dros 9 llawr ac yn dal 40,000 teitl.[2] Dyma storfa gyfreithiol a hawlfraint Syria.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Syria.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Syria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato