Llyfr llofnodion

Oddi ar Wicipedia
Hen lyfr llofnodion o'r 1880au.

Llyfr ar gyfer casglu llofnodion, ac o bosib negeseuon a llên fer mewn llawysgrifen amryw bobl, yw llyfr llofnodion.

Mae'r llyfrau llofnodion cynharaf yn dyddio o'r 15g. Llyfrau cyfeillgarwch oedd y mwyafrif o'r fath lyfrau, a ddefnyddir i gasglu negeseuon byrion gan gyfeillion. Hyd at ganol y 19g, arferai'r llofnodwyr ysgrifennu dyfyniadau, penillion, neu negeseuon homiletaidd. Yn niwedd y 19g daeth cynnwys llyfrau llofnodion yn fwy doniol ac yn anffurfiol. Daeth yr arfer yn boblogaidd ymhlith plant yn yr 20g i rannu rhigymau ac ysgribliadau digrif ac i gofnodi cyfeillgarwch. Mae nifer o ddisgyblion yn defnyddio llyfrau nodiadau, neu flwyddlyfr cyffredin, i gasglu negeseuon ffarwél a dymuniadau da ar ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol. Tuedda nodiadau mewn llyfrau cyfeillgarwch cyfoes i fod yn fwy sarhaus ac yn anghelfydd na negeseuon addfwyn a sentimental yr 19g.[1]

Yn yr oes fodern, defnyddir llyfrau llofnodion i gasglu llofnodion gan enwogion neu grwpiau penodol o unigolion nodedig. Mae parciau thema Disney, er enghraifft, yn gwerthu llyfrau i blant gasglu llofnodion gan ddifyrwyr sydd mewn gwisg cymeriadau Disney.[1]

Bu'n gyffredin yn ystod yr 1970au a'r 1980au i blant Cymru gasglu llofnodion enwogion teledu a pop Cymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd gyda llyfr llofnodion yr Urdd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 William M. Clements, "Autograph book" yn Folklore: An Encyclopedia of Beliefs, Customs, Tales, Music, and Art, golygwyd gan Thomas A. Green (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2007), tt. 76–77.