Llyfr Glas Nebo
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Manon Steffan Ros |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Hydref 2019 |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781784616496 |
Nofel gan Manon Steffan Ros yw Llyfr Glas Nebo. Cyhoeddwyd y llyfr gan Y Lolfa yn 2018 i adolygiadau positif.[1]
Mae'r stori'n digwydd mewn byd ôl-apocalyptaidd yn y wlad ger Nebo, pentref yn Arfon, Gwynedd. Mae'r bachgen Siôn, ei fam Rowenna, a'i chwaer fach, Dwynwen, yn geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – yr hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion yr ardal a thu hwnt.[2] Dros gyfnod o flynyddoedd mae Siôn a Rowenna yn cofnodi eu hanes mewn llyfr nodiadau glas y daethon nhw o hyd iddo mewn tŷ yn Nebo.
Cafodd y llyfr ei addasu yn sioe llwyfan gan Cwmni’r Frân Wen yn 2019.[3]
Gwobrau
- Enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018
- Rhestr Fer Gwobr Tir na n-Og 2019
- Llyfr y Flwyddyn 2019
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
- ↑ "Llyfr Glas Nebo". Y Lolfa. Cyrchwyd 29 Ionawr 2020.
- ↑ "Llyfr Glas Nebo"; Cwmni'r Frân Wen; adalwyd 29 Ionawr 2020