Neidio i'r cynnwys

Llwyfan Gogledd Cymru

Oddi ar Wicipedia
Llwyfan Gogledd Cymru
Enghraifft o:gwmni theatr Cymraeg a Saesneg
Dyddiad cynharaf2002
IaithCymraeg, Saesneg, Gwyddeleg
Cysylltir gydaIan Rowlands
Dod i ben2007
Dynodwyr

Cwmni theatr Cymraeg o ardal Caernarfon oedd Llwyfan Gogledd Cymru, a sefydlwyd gan y cyfarwyddwr a'r dramodydd, Ian Rowlands yn 2003.[1] Cyflwynodd y cwmni sawl cyd-gynhyrchiad efo Sefydliadau ac unigolion o'r Iwerddon, yn ogystal â dramâu gan Aled Jones Williams, Ifor ap Glyn, Iwan Llwyd ac eraill. Daeth y cwmni i ben yn 2007.[2]

Cefndir

[golygu | golygu cod]
Clawr y ddrama Ta-ra Teresa

Sefydlwyd y cwmni yn 2003, "gyda’r bwriad o greu cynyrchiadu o safon uchel ar gyfer Gogledd Cymru a thu hwnt."[3] Cynhyrchiad cyntaf y cwmni oedd ail-lwyfaniad o gynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o ddrama Aled Jones Williams,Ta-Ra Teresa yn 2003. Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol yn ystod cyfnod Ian Rowlands fel arweinydd artistig Theatr Gwynedd yn Nhachwedd 2002.[4]

Polisi artistig y cwmni oedd "ceisio pontio’r gagendor rhwng iaith a diwylliant Cymraeg a Saesneg" drwy gyflwyno "cynyrchiadau aml-gyfrwng, aml-ieithog gyda’r bwriad o gryfhau safle yr iaith Gymraeg a codi ymwybyddiaeth o theatr Gymreg ar lwyfan ryngwladol".[3] Ariannwyd y cwmni gan amrywiol Sefydliadau gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a CCAT. "Cynllun o dan y rhaglen Interreg IIIa yw CCAT yng nghanolfan y celfyddydau Aberystwyth a Temple Bar a'i nod yw meithrin perthnasoedd rhwng pobl sy'n ymwneud â'r celfyddydau yng Nghymru ac Iwerddon gan godi proffil byd y celfyddydau yn y ddwy wlad gartref a thramor."[3]

Wedi pedair blynedd o gynhyrchu, daeth y cwmni i ben yn 2007, oherwydd diffyg nawdd gan Gyngor y Celfyddydau. Roedd rhai y gweld cysylltiad rhwng hyn a lawnsiad Theatr Genedlaethol Cymru yn yr un cyfnod.[2]

"Yn ystod y pedair blynedd, mae Ian Rowlands wedi creu theatr arbennig iawn" oedd sylw adolygydd theatr Y Cymro ar y pryd, "gan feithrin awduron newydd a dangos inni weledigaeth theatrig unigryw. Do, bu ambell i gam-gwag yn ystod y cyfnod - fel sydd i’w ddisgwyl gan bob cwmni, ond efo Ta-Ra Teresa, Frongoch, Deinameit a rwan Branwen, fe grëwyd rhywbeth arbennig iawn ac mae’n warthus nad oes mwy o arian yn cael ei roi i’r cwmni. Sawl awdur newydd mae’r Theatr Genedlaethol wedi’i feithrin yn y bedair blynedd ers eu bodolaeth hwythau? Os na chaiff Ian Rowlands barhau i gyfarwyddo ac ysgrifennu, mae’n golled enbyd i’r theatr yng Nghymru," dadleuodd Paul Griffiths.[2]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]
Clawr y ddrama Frongoch 2005

2003

Clawr rhaglen Branwen 2006

2004

2005

2006

2007

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Llwyfan Gogledd Cymru (2006). Rhaglen Branwen.
  2. 2.0 2.1 2.2 Griffiths, Paul (2007-06-22). "Paul Griffiths: 'Branwen' a 'Sweeney Todd'". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2025-08-02.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Llwyfan Gogledd Cymru yn cyflwyno eu cynhyrchiad diweddara - News and latest information on Theatre Dance and Performance in Wales - news, reviews, commentary, features and discussion". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2025-08-03.
  4. Williams, Aled Jones (2002). Rhaglen Ta-ra Teresa.
  5. 5.0 5.1 "BBC - Gogledd Orllewin - Hanes streic ar lwyfan". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-08-02.
  6. "Frongoch rehearsal draft 17.1.05 English". Peoples Collection Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-02.
  7. Griffiths, Paul (2006-03-31). "Paul Griffiths: 'at swim two boys' a 'Cymru Fach'". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2025-08-02.
  8. Griffiths, Paul (2007-03-16). "Paul Griffiths: 'Mae gynnon ni hawl ar y ser'". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2025-08-02.