Llwybr Glyn Dŵr

Oddi ar Wicipedia
Llwybr Glyn Dŵr
Enghraifft o'r canlynolhiking trail, Llwybr Troed Cenedlaethol Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthPowys Edit this on Wikidata
Hyd135 milltir Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nationaltrail.co.uk/en_GB/trails/glyndwrs-way/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llwybr Glyn Dŵr ger Llyn Clywedog.

Llwybr cerdded ym Mhowys yw Llwybr Glyn Dŵr (neu'n gywir: Llwybr Glyn Dŵr). Fe'i enwir ar ôl y tywysog Owain Glyn Dŵr ac mae'n dilyn llwybr sy'n ymweld â llefydd a gysylltir a Glyn Dŵr a hanes ei wrthryfel. Gyda Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Llwybr Arfordir Penfro, mae'n un o dri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae'r llwybr yn cychwyn yn Nhref-y-clawdd (Knighton), ar y ffîn â Lloegr, lle mae'n cysylltu â Llwybr Clawdd Offa. Yna mae'n rhedeg ar gylch tro pedol trwy ganolbarth Cymru gan fynd trwy nifer o drefi bach a phentrefi a safleodd hanesyddol fel Abaty Cwm Hir. Ar ôl croesi Pumlumon ac ymweld â safle Brwydr Hyddgen mae'n cyrraedd Machynlleth ar Afon Dyfi ac yna'n gychwyn yn ôl i'r dwyrain i orffen yn Y Trallwng.


Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.