Llwchaiarn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llwchaiarn
Ganwyd 0580 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw 0640 Edit this on Wikidata (60 oed)
Dinasyddiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Mynach Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 11 Ionawr Edit this on Wikidata

Sant o'r 7g oedd Llwchaiarn neu Llwchayarn (g. 580) a nawddsant eglwysi Sant Llwchaiarn, Llanmerewig a Llanllwchaiarn, ill dau yn hen gantref Cedewain, Powys, a Llanychaearn a Llanllwchaearn yng Ngheredigion. Daw'r enw 'Llamerewig' o 'Llam yr ewig', a chysylltir stori am naid y carw ifanc â Llwchaiarn. Dethir ei ddydd gŵyl ar naill ai 11 neu 12 o Ionawr.[1]

Dywedir ei fod yn fab i Hygarfael ap Cyndrwyn o Gaereinion, Powys a’i fod yn frawd i’r seintiau Aelhaiarn (neu Aelhaearn) a Chynhaiarn (nawddsant Eglwys Sant Cynhaiarn, Ynys Ystumllyn ger Cricieth, Gwynedd). Roedd o bosib yn gefnder i Sant Beuno. Noda Bonedd y Saint ei fod yn fab i Cerfael a'i gysylltiad gyda Chedewain, Powys. Dywedir mewn llawysgrif arall (Peniarth MS.100; 16g) ei fod yn fab i 'Cerfael' neu 'Kynfael'[2]

Mewn Hen Gymraeg, gall y gair 'llwch' olygu 'llyn'.

Sgwennodd y bardd Sion Ceri (fl. c. 1500 - c.1530) gywydd i Llwchaearn lle gelwir y sant yn 'Llwchayarn, Filwr a Sant, o Lamerewig'.

Eglwysi[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhestr Wicidata:


# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Eglwys Llanychaearn, Llanfarian
Llanychaearn, Parish Church - geograph.org.uk - 18850.jpg
52°23′10″N 4°04′48″W / 52.386°N 4.08°W / 52.386; -4.08 Ceredigion Q47182172
2 Eglwys Llwchaiarn
St Llwchaiarn’s church, Llanllwchaiarn 02.jpg
52°31′25″N 3°17′34″W / 52.523556°N 3.2928746°W / 52.523556; -3.2928746 Powys Q20714161
3 Eglwys Llwchaiarn, Ceinewydd
St Llwchaiarn's church, New Quay.jpg
52°12′49″N 4°21′56″W / 52.213513°N 4.365521°W / 52.213513; -4.365521 Ceinewydd Q29489417
4 Eglwys Llwchaiarn, Llandysul
Llanmerewig Church.jpg
52°31′48″N 3°14′35″W / 52.5299°N 3.24294°W / 52.5299; -3.24294 Powys Q17739571
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Baring-Gould (1908); adalwyd 11 Ionawr 2017.
  2. gwefan llgc.org.uk; adalwyd 11 Ionawr 2017.