Lloyd Lewis
Lloyd Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 5 Medi 1996 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi, cyflwynydd teledu, rapiwr |
Pwysau | 90 cilogram |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cyflwynydd teledu, chwaraewr rygbi a rapiwr o Gymru yw Lloyd Lewis (ganwyd 5 Medi 1996 ).[1] Mae'n chwarae rygbi saith bob ochr fel asgellwr i'r Dreigiau.
Magwyd Lewis yng Nghwmbran ac aeth i Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypŵl.[2] Astudiodd am radd Llenyddiaeth Saesneg ar y cyd â'r Cyfryngau a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd[3] gan raddio yn 2019.[4]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Fel chwaraewr rygbi saith bob ochr, mae Lewis wedi cynrychioli Cymru ar y lefel Dan 18 a Dan 20. Roedd hefyd yn rhan o dîm Cymru a gyrhaeddodd dwrnamaint Saith Bob Ochr Cwpan Rygbi'r Byd a gynhaliwyd yn Ne Affrica. Cystadlodd hefd yng Ngemau'r Gymanwlad 2022.[4]
Yn 2020 enillodd le ar gynllun gan ITV ac S4C i hyfforddi newyddiadurwyr er mwyn creu deunydd ar gyfer platfform digidol Hansh. Mae wedi cyflwyno CIC, y gyfres chwaraeon i blant ar S4C.[5] Mae hefyd yn gapten tîm ar Tekkers, y cwis chwaraeon i blant.[6] Roedd yn un o gyflwynwyr rhaglen uchafbwyntiau Tafwyl 2024.[7] Roedd yn ohebydd yn crwydro'r maes ar gyfer rhaglenni teledu Eisteddfod Genedlaethol 2024.[8]
Mae'n rapiwr ac wedi cydweithio gyda Dom James ar sawl cân.[9] Mae Dom a Lloyd wedi chwarae mewn gigiau yng nghŵyl Tafwyl 2023[10] ac yn Eisteddfod Genedlaethol 2023.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Websites - 3bit.co.uk, We Build. "Lloyd Lewis | Dragons Player". dragonsrfc.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-06.
- ↑ Howell, Andy (2017-09-29). "The Wales rugby star who's become an internet hit as a rapper". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-06.
- ↑ "Datblygu a denu talent newydd i'r maes Newyddiaduraeth". www.s4c.cymru. 2020-11-05. Cyrchwyd 2024-08-06.
- ↑ 4.0 4.1 "Cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd sy'n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad". Prifysgol Caerdydd. 2022-07-28. Cyrchwyd 2024-08-06.
- ↑ "Y chwaraewr rygbi Lloyd Lewis i gyflwyno cyfres newydd CIC ar S4C". Golwg360. 2021-09-25. Cyrchwyd 2024-08-06.
- ↑ "Young footballers showcase their Tekkers for S4C show". Cambrian News (yn Saesneg). 2023-12-14. Cyrchwyd 2024-08-06.
- ↑ "Tafwyl 2024". www.s4c.cymru. Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 2024-08-06.
- ↑ Price, Stephen (2024-08-02). "S4C broadcasts all the excitement of the 2024 Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-06.
- ↑ "Pwy sy'n galw? Y sengl newydd sydd â neges glir am rap Cymreig". www.s4c.cymru. 2022-05-20. Cyrchwyd 2024-08-06.
- ↑ "Tafwyl 2023". Y Selar. 2023-07-15. Cyrchwyd 2024-08-06.
- ↑ "Cyhoeddi cyngherddau prif bafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol". BBC Cymru Fyw. 2023-06-05. Cyrchwyd 2024-08-06.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Lloyd Lewis ar Twitter
- Lloyd Lewis ar Instagram