Llong ryddid
Llong ryddid SS John W. Brown | |
| Enghraifft o: | llong gludo |
|---|---|
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Olynwyd gan | Victory ship |
| Gweithredwr | Cynghreiriaid yr Ail Ryfel Byd |
| Enw brodorol | Liberty Ship |
| Hyd | 134.57 metr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01c4xv |
| Quora | Liberty-ship |
Math o long cargo a adeiladwyd yn yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd llong ryddid[1] (Saesneg: Liberty ship). Roedd y llongau hyn yn rhan o gynllun brys i ddiwallu'r angen i gymryd lle llongau cargo trawsiwerydd a oedd yn cael eu colli i ymosodiadau y gelyn. Roedd y dyluniad a'r adeiladwaith yn syml ac yn isel o ran cost. Cynhyrchwyd y llongau ar raddfa nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen.
Lansiwyd y cyntaf o'r llongau hyn ar 27 Medi 1941; lansiwyd yr olaf ar 30 Hydref 1945. Rhwng y dyddiadau hyn adeiladwyd 2,710 o longau rhyddid gan 18 o iardiau llongau (cyfartaledd o dair llong bob dau ddiwrnod), y nifer fwyaf o longau a gynhyrchwyd erioed i un dyluniad.[2] Enwyd y llongau hyn ar ôl Americanwyr amlwg (ymadawedig), gan ddechrau gyda Patrick Henry a llofnodwyr eraill y Datganiad Annibyniaeth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "liberty"
- ↑ "Liberty Ships built by the United States Maritime Commission in World War II". usmm.org. American Merchant Marine at War. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mai 2008. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2021.