Llong Ganoloesol Casnewydd
| Enghraifft o: | safle archaeolegol, llong hwylio, llong amgueddfa, cerbyd teithio mewn dŵr wedi'i brisyrfio |
|---|---|
| Deunydd | derw, pren ffawydd |
| Gwlad | |
| Dechrau/Sefydlu | 1457 |
![]() | |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | Casnewydd |
| Hyd | 30.6 metr |
| Gwefan | https://www.newportship.org/ |
| Dynodwyr | |
Mae Llong Ganoloesol Casnewydd yn llong hwylio a wnaed yn 1457 ac a ddarganfuwyd pan ymchwiliodd archaeolegwyr i bren a ddarganfuwyd ar 25 Mehefin 2002 tra'n codi Canolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd. Mae'r safle ar lan orllewinol yr Wysg, sy'n rhedeg trwy ganol dinas Casnewydd.
Dyma un o ddarganfyddiadau pwysicaf Ewrop: llong sy'n hŷn na'r Mary Rose, a lansiwyd yn 1511, ac yn fwy na llongau Christopher Columbus a groesodd yr Iwerydd yn 1492. Llong fasnachol ydoedd, a chafwyd hyd i bron i gant o gasgenni yr oedd yn ei gario: casgenni dal gwin, olew a chnau gan fwyaf. Mae'n bur debyg i'r llong gael ei gwneud yn 1457 yn ardal Donostia, Gwlad y Basg, fod ganddi griw o forwyr o Galisia a Phortiwgal ac mai perchennog y llong oedd y Cymro cyfoethog William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469).[1]
Dioddefodd gweddillion y llong rywfaint o ddifrod oherwydd y gwaith adeiladu, ond mae'n dal i gynrychioli darganfyddiad sylweddol o long o ddiwedd yr Oesoedd Canol, ynghyd ag arteffactau arwyddocaol a deunydd amgylcheddol. Yn flaenorol, gelwid hi yn "llong Casnewydd" yn syml, ond yr enw swyddogol arni, bellach, yw Llong Ganoloesol Casnewydd, i helpu i'w gwahaniaethu oddi wrth longau hanesyddol eraill.
Roedd y llong yn wreiddiol tua 116 troedfedd (35 metr) o hyd ac amcangyfrifwyd ei bod yn pwyso 161 tunnell – sef pwysau'r gwin Bordeaux y gellid bod wedi'u storio ynddi. Ystyriwyd llongau o'r maint hwn yn 'llongau mawr' yn ôl safonau'r oes ac fe'u defnyddiwyd fel arfer ar gyfer y fasnach bellter-hir rhwng ynysoedd Prydain, Bizkaia (Gwlad y Basg) a de Penrhyn Iberia.[2]
Y dyddiad adeiladu mwyaf tebygol ar gyfer y llong yw yn syth ar ôl gaeaf 1457/8. Cafwyd y dyddiad hwn drwy ddendro-cronoleg isotopau ocsigen. Rhoddodd astudiaeth dendro-cronoleg safonol gynharach (mesur lled cylchoedd twf blynyddol) ddyddiad cwympo tebygol o 1449 ar gyfer y rhan fwyaf o'r pren. Mae;n bosib, felly, i'r coed gael eu torri 7-8 mlynedd cyn adeiladu'r llong. Nododd yr astudiaeth gynharach hon gan arbenigwyr mai o Wlad y Basg y daeth y pren. Bu hon yn ardal bwysig am ei diwydiant adeiladu llongau ar yr adeg yma. Daw pren sy'n gysylltiedig â chyfnodau diweddarach o atgyweirio o Ynys Prydain, a cheir nifer fawr o ddarnau strwythurol yn dyddio o tua 1466. Mae'r pren hwn wedi bod yn gysylltiedig â'r gwaith adnewyddu mawr a oedd yn cael ei wneud yng Nghasnewydd ar adeg y suddodd y llong. Mae gweddillion crud pren i ddal y llong a ddarganfuwyd o dan y llong yn awgrymu iddi angori er mwyn iddi gael ei hatgyweirio. Torrodd y crud a throdd y llong ar ei hochor. Mae llawer o'r arteffactau yn y llong, fel darnau arian, crochenwaith a gweddillion planhigion, yn awgrymu iddi fod yn masnachu â Phortiwgal yn y 1450au a'r 1460au.
Ymgyrchodd pobl leol yn eiddgar i sicrhau fod y llong yn cael ei diogelu a'i phrisyrfio a sefydlwyd Cyfeillion Llong Casnewydd i'r perwyl hwn. Awgrymodd amcangyfrifon cychwynnol y byddai cadwraeth yn costio tua £3.5miliwn ac ar 23 Aest 2002 addawodd Lywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd gyfrannu'r arian. Erbyn Tachwedd 2025, roedd holl bren y llong wedi cael ei godi o wely'r afon, a'i drosglwyddo i uned ddiwydiannol bwrpasol y mae'r cyngor lleol yn ei disgrifio fel "bellach y ganolfan cadwraeth pren fwyaf yn y DU", lle mae cadwraeth ac ymchwil yn parhau. Oherwydd ei faint, nid yw wedi bod yn bosibl arddangos y llong yn islawr y ganolfan gelfyddydau newydd, fel y cynigiwyd yn wreiddiol.
Suddo
[golygu | golygu cod]
Mae gan Afon Wysg amrediad llanw mawr ac mae'n ymddangos bod y llong wedi'i dad-falastio a'i harneisio'n ofalus i sianel-bwll neu Bîl (sy'n air Cymraeg a ddefnyddir yn y Saesneg) cyn iddi suddo. Gwnaed hyn ar lanw uchel iawn cyn ei gosod ar grud pwrpasol wedi'i wneud o foncyffion derw a llwyfen. Mae gan y crud hwn ddyddiad cynharaf posibl o wanwyn 1468 (trwy dendro-cronolegio). Ymddengys bod y llong wedi cael ei hailwampio'n sylweddol, fel y dangosir gan siapio a mewnosod pren a dyfwyd yng ngwledydd Prydain (wedi 1465) i fewn i'r llong i hun. Fodd bynnag, cyn y gellid cwblhau'r gwaith atgyweirio hwn, ymddengys bod y crud wedi cwympo, a'r llong yn siglo drosodd i'w hochr dde. Ymddengys bod y llanw a ddaeth i mewn wedi hynny wedi gyrru tywod mân, clai a dŵr i grombil y llong.[3]
Adeiladu
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y llong drwy osod un ystyllen i orgyffwrdd â'r un oddi tani, y styllen isaf bob tro ar du mewn yr un uwchben. Gosodwyd ystyllod y gragen allanol yn gyntaf a'u sicrhau at ei gilydd gyda hoelion haearn. Yna cafodd pen pob hoelen ei forthwylio'n wastad i greu sêl dynn. Seliwyd pob agoriad rhwng y prennau a oedd yn gorgyffwrdd drwy galcio â thar a blew anifail. Defnyddiwyd blew ceffyl, buwch, dafad a gafr ar Long Casnewydd. Yna sicrhawyd asennau pren y tu fewn, yn fertig, o fewn cragen y llong, a'u sicrhau i'r ystyllod llorweddol.
Sicrhawyd pob darn o fframio i gilfach (asgwrn cefn) y llong trwy osod ei doriad cilfach dros y cilfach a'i ddal yn fanwl gywir. Ni ddefnyddiwyd hoelion a threnau yn y llong hon i sicrhau fframiau i'r cilfach. Pren ffawydd a ddefnyddiwyd i wneud trumbren (neu waelod) y llong, ond mae pob rhan arall wedi'i wneud o dderw; nid oes esboniad am hyn, hyd yma.[4]

Mae glanhau'r pren wedi arwain at ddarganfod, ar ystyllod allanol cragen y llong, gyfres o farciau a wnaed yn fwriadol yn y pren. Ymddengys mai marciau llongwyr unigol neu gyfarwyddiadau ar gyfer gosod planciau neu glymiadau ydy'r rhain, neu efallai farciau masnachwyr.
Mae tystiolaeth amgylchiadol yn awgrymu y gallai'r llong fod yn eiddo i Iarll Warwick erbyn 1469 ac wedi ei hatgyweirio ar ei gyfer. Roedd llythyr awdurdodi dyddiedig 22 Tachwedd 1469 oddi wrth Warwick at Thomas Throkmorton, ei dderbynydd o Forgannwg a Morganwg, yn awdurdodi amryw daliadau ar gyfer "gwneud y llong yng Nghasnewydd" y gellid eu dehongli fel atgyweiriadau i'r llong a oedd wedi'i difrodi'n ddrwg.[5][6]
Yr esboniad symlaf (er nad yr unig un) yw mai llong o benrhyn Iberia oedd hon a oedd angen rhywfaint o atgyweiriadau tra yn ardal Bryste. [7] Mae ymchwil wedi dangos bod gan Gasnewydd rai llongau mawr iawn weithiau yn y 15g a'r 16g, fel Llong Ganoloesol Casnewydd. Defnyddiwyd y rhain yn bennaf i wasanaethu masnach bellter hir Bryste, a oedd bryd hynny'r ail borthladd fwyaf yn lloegr.[5]
Arteffactau
[golygu | golygu cod]Yn ystod y cloddio, daethpwyd o hyd i gannoedd o wrthrychau y tu mewn i'r llong, yn amrywio o belen ganon garreg i hadau grawnwin ac yn cynnwys awyr-wydr wedi'i ddifrodi, 13 esgid sengl ac mae un ohonynt yn esgid ddrud iawn, darnau o gorc a rhai darnau arian o Bortiwgal.[8] Bddai'r hadau, y corc a'r darnau arian yn awgrymu masnachu rhwng Penrhyn Iberia a Chymru ac mae presenoldeb gwlân defaid Merino yn y deunydd calcio yn cefnogi'r syniad hwn; ond nid yw'n brawf pendant. Ar ôl astudio manylion strwythurol y llong, mae aelodau o Gymdeithas Albaola sydd wedi'i lleoli yn Pasaia, ger Donostia yng Ngwlad y Basg yn credu y gallai'r llong fod wedi'i hadeiladu gan longwyr Basgaidd neu yn ne-orllewin Ffrainc. Credir fod rhai arteffactau, gan gynnwys darnau arian Portiwgalaidd a darnau o grochenwaith, ynghyd â gweddillion planhigion, yn dynodi cysylltiadau masnachu cryf â Phortiwgal, gyda phosibilrwydd cryf bod criw o Bortiwgal ar y llong.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Ffrindiau Llong Casnewydd Llong Casnewydd yng Nghyngor Dinas Casnewydd Adferiad llong ganoloesol ar ddangos — BBC, 4 Mehefin 2006 Llong ganoloesol Casnewydd: degawd o adfer – fideo newyddion y BBC, 13 Ebrill 2012 Cynhadledd: 'Byd Llong Newport', 17–18 Gorffennaf 2014 Llong Ganoloesol Newport mewn Cyd-destun: Bywyd ac Amseroedd Llong Fasnachol yn y 15fed Ganrif yn Masnachu yng Ngorllewin Ewrop, cyflwyniad gan TN Jones a N. Nayling, 28 Awst 2015
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ newportship.org; adalwyd 17 Tachwedd 2025.
- ↑ Jones 2018a.
- ↑ Nayling & Jones 2018, t. 47.
- ↑ Nayling & Jones 2014.
- 1 2 Trett 2018.
- ↑ "The Newport Ship". Newport Past. Cyrchwyd 25 Hydref 2022.
- ↑ Hocker 2019.
- ↑ Head 2017.
