Llofruddiaethau Southport
Enghraifft o: | trywanu torfol ![]() |
---|---|
Dyddiad | 29 Gorffennaf 2024 ![]() |
Lladdwyd | 3 ![]() |
Lleoliad | Southport ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Rhanbarth | Southport ![]() |
Achos o drywanu torfol yn Southport, Glannau Merswy, Lloegr, oedd llofruddiaethau Southport a gyflawnwyd gan Axel Rudakubana ar 29 Gorffennaf 2024, gan ladd tair merch ifanc ac anafu wyth merch arall a dau oedolyn.
Bachgen 17 oed ar y pryd oedd Axel Muganwa Rudakubana, a aned yng Nghaerdydd i rieni o Rwanda, ac a drigodd ym mhentref Banks, Swydd Gaerhirfryn, ar gyrion Southport. Cynlluniodd i dargedu'r Hart Space, stiwdio ddawns yn ardal Meols Cop, Southport, a oedd yn cynnal gweithdy ioga a dawns gyda cherddoriaeth Taylor Swift ar gyfer 26 o blant. Cyrhaeddodd yr adeilad mewn tacsi, ac aeth ati i drywanu'r merched yn gyflym ac yn ddi-ball. Ymosododd hefyd ar ddau oedolyn a geisiodd amddiffyn y plant: Leanne Lucas, un o drefnwyr y gweithdy, a Jonathan Hayes, gweithiwr swyddfa yn yr un adeilad. Bu farw dwy ferch yn y fan, ac un wedi diwrnod yn yr ysbyty. Wedi i'r heddlu gyrraedd, cafodd Rudakubana ei arestio a'i gyhuddo o dair llofruddiaeth, deg ymgais i lofruddio, a meddiant ar wrthrych miniog. Yn hwyrach cafodd ei gyhuddo o dorri Deddf Arfau Biolegol 1974 drwy feddu ar risin, a Deddf Terfysgaeth 2000 am feddu ar astudiaeth filwrol o ddogfen hyfforddi al-Qaeda. Plediodd Rudakubana yn euog i bob un o'r 16 o gyhuddiadau yn ei erbyn ar 20 Ionawr 2025, pan oedd disgwyl i'w dreial gychwyn.[1] Tridiau'n ddiweddarach, cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes ac i fwrw o leiaf 52 mlynedd yn y carchar. Datganodd y barnwr nad oedd modd iddo roi tariff llawn oes i Rudakubana oherwydd nad oedd eto yn 18 oed pan gyflawnwyd y troseddau.[2]
Trannoeth y drosedd, ymgynulliodd torf yn Southport a wrthdarodd â'r heddlu, a chafodd mosg yn y dref ei ddifrodi yn sgil camwybodaeth am hunaniaeth y llofrudd. Yn yr wythnos i ddod, ymledodd protestiadau a therfysgoedd ar draws Lloegr, ac ym Melffast yng Ngogledd Iwerddon.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dyn o Gaerdydd yn pledio'n euog i lofruddio tair merch yn Southport", BBC (20 Ionawr 2025). Adalwyd ar 23 Ionawr 2025.
- ↑ "O leiaf 52 mlynedd o garchar i ddyn o Gaerdydd am lofruddio tair merch", BBC (23 Ionawr 2025). Adalwyd ar 23 Ionawr 2025.