Llofruddiaeth Mark Tildesley

Oddi ar Wicipedia
Llofruddiaeth Mark Tildesley

Roedd Mark Anthony Tildesley (31 Awst 19761 Mehefin 1984) yn fachgen ysgol Seisnig a ddiflannodd, yn saith mlwydd oed, ar 1 Mehefin 1984, wrth ymweld â ffair yn ei dref enedigol, Wokingham, Berkshire.[1][2]

Bu chwilio eang amdano yn ardal Wokingham yn fuan wedi sylwi ei fod wedi diflannu; gan bobl leol, heddweision a milwyr ond heb iddynt lwyddo i'w darganfod.[3]

Fel rhan o'r ymchwiliad cafodd ymgyrch bosteri cenedlaethol ei lansio, gyda phoster yn cael ei arddangos ym mhob gorsaf heddlu trwy wledydd Prydain. Cafodd diflaniad Tildesley gyhoeddusrwydd ym mhapurau lleol megis y Wokingham Times a hefyd ym mhapurau mawr Lundain megis The Times, y Daily Mail a’r Daily Mirror ac ar raglen newyddion lleol cwmni ITV Thames News. Cafodd yr achos sylw ar raglen gyntaf y gyfres Crime Watch. Er gwaethaf ymateb cyhoeddus enfawr, ni ddaeth yr ymdrechion hyn a llawer o dystiolaeth concrid i gynorthwyo'r ymchwiliad.[4]

Ym 1989 cafodd diflaniad Tildesley ei gysylltu â Operation Orchid, ymchwiliad i blant ar goll; fel rhan o'r ymgyrch awgrymwyd bod yr hogyn wedi ei gipio, wedi ei orfodi i ddod o dan ddylanwad cyffuriau, wedi ei arteithio ac wedi ei dreisio'n rhywiol cyn ei lofruddio gan gang bedoffilydd o Lundain o dan arweiniad Sidney Cooke.

Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo a chafodd mainc goffa ei osod ger mynedfa safle'r ffair. Gosodwyd carreg fedd er cof amdano mewn mynwent gyfagos.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Paedophile in jail rape allegation". The Herald. Glasgow. 7 Ionawr 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2017-07-21.
  2. "Police fear boy is dead". The Times. London. 4 Mehefin 1984. t. 2.
  3. "Missing Mark: Police are baffled". Wokingham Times. Wokingham. 14 Mehefin 1984. t. 1.
  4. Lambs to the Slaughter, Sphere 1993 isbn= 978-0751-50-337-1
  5. Brave mum dies without finding murdered son Mark Tildesley