Llindag y wain

Oddi ar Wicipedia
Llindag y wain
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcandidïasis, vulvovaginitis, vaginal disease, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauBrech edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae llindag y wain (candida, candidiasis fwlfaweiniol neu gandidosis gweiniol) yn haint burum a achosir gan ffwng Candida albicans. Menywod yn eu tridegau a'u pedwar degau a'r rhai sy'n feichiog yw'r rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf cyffredin. Mae llindag gweiniol yn effeithio ar lawer o fenywod yn ystod eu bywyd.

Ceir y ffwng Candida albicans yn naturiol yn y wain ac mae'n ddiberygl. Pan fydd yn lluosi gall achosi cosi poenus a chwydd yn y wain a'r fwlfa. Yn y rhan fwyaf o achosion gellir trin llindag yn effeithiol. Nid yw'n hysbys pam mae rhai menywod yn fwy tueddol o gael llindag nag eraill.[1]

Symptomau[golygu | golygu cod]

Mae symptomau llindag y wain yn cynnwys:

  • cosi yn y fwlfa
  • dolur a chosi poenus yn y fwlfa
  • rhedlif gweiniol
  • poen, neu anghysur, yn ystod cyfathrach rywiol (dysparewnia arwynebol)
  • gall poen, neu anghysur, yn ystod piso (dyswria) fod yn bresennol weithiau

Llid fwlfaweiniol[golygu | golygu cod]

Ynghyd â'r symptomau llindag uchod, gallwch hefyd gael llid fwlfaweiniol. Mae arwyddion llid fwlfaweiniol yn cynnwys:

  • gwritgochni (cochni) - y wain a'r fwlfa
  • hollt gweiniol (croen wedi cracio) - mewn achosion difrifol o lid,
  • oedema (chwydd a achosir gan hylif yn cronni) - hefyd mewn achosion difrifol o lid, a
  • namau dibynnol (briwiau yn yr ardal amgylchynol) - mae hyn yn brin, ond gall ddangos presenoldeb cyflyrau ffwngaidd eraill, neu'r firws herpes simplecs.

Rhedlif gweiniol[golygu | golygu cod]

Mae rhedlif gweiniol yn symptom cyffredin o lindag gweiniol. Yn aml mae'n wyn ac 'yn debyg i gaws', ond gall hefyd fod yn ddyfrllyd neu’n grawnllyd (yn cynnwys crawn). Fel rheol mae'r rhedlif yn ddiarogl.

Diagnosis[golygu | golygu cod]

Mae'r diagnosis yn gyffredinol yn seiliedig ar y symptomau. Mewn achosion mwy dyfalbarhaol o lindag gweiniol a llindag y pidyn gallai fod angen profi sampl neu swab. Trin llindag

Triniaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r triniaethau ar gyfer llindag yn cynnwys cymryd neu roi moddion gwrthffwngaidd. Gall y rhain fod yn losin ar gyfer llindag y geg, moddion a gymerir, hufenau neu besarïau gweiniol ar gyfer llindag yr organau cenhedlu. Mae gan lawer o'r cyfryw foddion strwythur cemegol cyffredin a ddynodir gan yr olddodiad - asol. Mae enghreifftiau'n cynnwys clotrimasol, ffliwconasol a miconasol. Mae astudiaethau diweddar wedi dangos y gall defnyddio strategaeth driniaeth a elwir yn 'therapi cynnal' leihau dychweliad llindag y wain yn sylweddol.

Yn ôl yr astudiaethau mae defnyddio ffliwconasol geneuol yn wythnosol, neu ddefnyddio naill ai itraconasol geneuol neu clotrimasol mewnweiniol, yn fisol, yn effeithiol yn atal llindag rhag dychwelyd.

Rheolaeth[golygu | golygu cod]

Ynghyd â defnyddio triniaethau dros y cownter, gall dioddefwyr llindag hefyd wneud nifer o bethau eraill i helpu i leddfu'r broblem. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Golchi'r ardal weiniol gan ddefnyddio dŵr - osgoi defnyddio sebon ag arogl, geliau cawod, diaroglyddion gweiniol neu ffrydiau dŵr
  • Osgoi defnyddio condomau latecs, hufenau ac ireidiau sbermleiddiol, os ydynt yn achosi cosi poenus
  • Osgoi gwisgo dillad tynn, synthetig
  • Gwisgo dillad isaf cotwm a dillad llaes, ble bo'n bosibl

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)