Neidio i'r cynnwys

Llenyddiaeth Iddew-Almaeneg

Oddi ar Wicipedia

Llên a ysgrifennir yn Iddew-Almaeneg, iaith Germanaidd a siaredir yn hanesyddol gan yr Iddewon Ashcenasi yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop, yw llenyddiaeth Iddew-Almaeneg. Rhennir gan amlaf yn dri chyfnod hanesyddol: llenyddiaeth Hen Iddew-Almaeneg (1300–1780); llenyddiaeth yr oes Hasidig a'r Haskalah (1780–1890); a llenyddiaeth Iddew-Almaeneg Fodern (1864–presennol).

Hen Iddew-Almaeneg

[golygu | golygu cod]

Mae ieithyddion yn tybio i'r Iddew-Almaeneg ddatblygu o Uchel Almaeneg Canol yn y 12g, naill ai yn nhrefi'r Rheindir (Worms, Speyer, a Mainz) neu yn nghymunedau Iddewig, megis Regensburg, ger Afon Donaw yn nwyrain Bafaria. Mae'r dystiolaeth hynaf o'r iaith yn dyddio o 1272–73, ar ffurf rhigwm a ysgrifennir y tu mewn i lythrennau Hebraeg mawrion mewn llyfr gweddi o ddinas Worms. Ceir hefyd enghreifftiau cynnar o Iddew-Almaeneg ysgrifenedig ar ffurf glosau i egluro geiriau Hebraeg mewn testunau efrydol.

Llenyddiaeth grefyddol

[golygu | golygu cod]

Cafwyd hyd i lawysgrif Iddew-Almaeneg o 1382 yng ngenisa Synagog Ben Esra yn Hen Gairo, yr Aifft, sydd yn cynnwys aralleiriadau Beiblaidd mydryddol, a ffurfiau amrywiol ar straeon y Beibl ar sail esboniadau rabinaidd. Mae cyfieithiad llawn o Lyfr y Salmau yn dyddio o 1490, a throsiad o'r weddi Hebraeg Adir Hu o 1526. Cyhoeddwyd geiriadur a mynegair Beiblaidd Iddew-Almaeneg, a briodolir i'r ysgolhaig Rabi Anshel, yn Kraków yn 1534. Y trosiad mwyaf ddylanwadol o’r Beibl i’r Iddew-Almaeneg oedd Ẓe'enah u-Re'enah (Tsene-rene) a ysgrifennwyd yn y 1590au gan Jacob ben Isaac Ashkenazi (1550–1625). Aralleiriad rhydd ydyw o'r testunau Beiblaidd a ddarllenir yn y synagogy Pumllyfr, atodiadau'r haftarah, a phum sgrôl y Megillot—ynghyd ag esboniadau rabinaidd. Ymhen fawr o dro, enillodd Ẓe'enah u-Re'enah ei lle yn niwylliant yr Iddewon Ashcenasi, a chafodd ei darllen ganddynt ar y Sabath am ganrifoedd, yn bennaf gan y rhai nad oedd yn meddu ar ddigon o Hebraeg i ddeall y Beibl yn ei iaith wreiddiol.

Ffurf bwysig arall ar lên grefyddol oedd y teḥinot neu tkhine, gweddi neu ddefosiwn Iddew-Almaeneg ar gyfer merched yn bennaf. Ysgrifennwyd y rhain, yn wahanol i'r ffurfwasanaeth Hebraeg, fel erfyniadau personol a phenodol ar Dduw. Er yr oeddynt gan amlaf o safbwynt benywaidd, ysgrifennwyd nifer fawr ohonynt gan ddynion. Merched i rabïaid oedd yr awduron benywaidd, oherwydd nhw oedd yr unig fenywod i dderbyn addysg grefyddol ddigonol. Ymhlith y detholiadau o nod mae dau gasgliad a briodolir i Sara Bas-Toyvim, a drigodd yn ardal Podolia yn yr Wcráin yn nechrau'r 18g, a gweithiau Leah Horowitz (1680–1755) a oedd yn hanu o Bolekhiv.

Llên gwerin a mytholeg Iddewig Ewropeaidd

[golygu | golygu cod]

Yn ogystal âg aralleiriadau Beiblaidd a llenyddiaeth ddefosiynol, canolbwyntiodd llenyddiaeth Hen Iddew-Almaeneg ar chwedloniaeth led-Feiblaidd a straeon gwerin a oedd fel arall yn tarddu o'r traddodiad Ewropeaidd, weithiau gyda themâu Iddewig. Cyfieithiwyd llên gwerin boblogaidd yr Almaenwyr, er enghraifft chwedlau Dietrich von Bern a Hildebrand, i'r Iddew-Almaeneg gan hepgor y cyfeiriadau Cristnogol a'r sylwadau gwrth-Semitaidd. Ymddangosodd hefyd trosiadau Iddew-Almaeneg o ramantau Arthuraidd, er gwaethaf gwg y rabïaid, a berfformiwyd ar lafar dros sawl nos.

Aildraethir hanesion Beiblaidd Saul a Dafydd yn y Shmuel-bukh (1544), sydd yn cyfuno cynnwys Llyfrau Samuel a ffynonellau Hebraeg eraill â ffurfiau llenyddol Almaenig. Defnyddir mesur "pennill Hildebrand", yn debyg i'r Nibelungenlied, a chwe phwys gan bob llinell a phedair llinell i bob pennill, ar batrwm odli aabb. Mae'n bosib i'r Shmuel-bukh gael ei adrodd ar lafar mor gynnar â dechrau'r 14g. Yn y stori portreadir Dafydd yn farchog grymus, sydd yn profi brwydrau arwrol a themtiadau'r cnawd, yn debyg i nifer o brif gymeriadau llên gwerin Ewropeaidd y cyfnod. Cynhwysir ymgomion rhwng Duw a dyn, elfen a ymddengys hefyd mewn dramâu dirgel yr Oesoedd Canol.

Un o'r prif lenorion yn yr Hen Iddew-Almaeneg oedd Elijah Bokher Levita (1469–1549), gramadegydd Hebraeg a thiwtor a ymfudodd o'r Almaen i’r Eidal yn niwedd y 15g. Ei waith pwysicaf yn yr Iddew-Almaeneg yw'r Bove-bukh, addasiad, drwy gyfieithiad Eidaleg, o'r llyfr Eingl-Normaneg Buève de Hantone, a genir hanes y Frenhines Brandonia. Cyfansoddwyd y Bove-bukh ar fesur ottava rima ar batrwm odlau abababcc. Cwtogodd Levita ar hyd y gerdd (650 o benillion o gymharu â 1400 o benillion yn y fersiwn Eidaleg), gan hepgor rhai o'r golygfeydd erotig, ac yn ychwanegu nodweddion Iddewig. Mae'n bosib iddo hefyd gyfansoddi neu gyfieithu Pariz un Viene (1594), chwedl y marchog Paris a'r Dywysoges Vienna.

Yn 1602 cyhoeddwyd y Mayse-bukh ("Llyfr Straeon"), casgliad o straeon byrion sydd yn cyfleu'r traddodiad moes addysgol yn llenyddiaeth Hen Iddew-Almaeneg i'r dim. Mae'r casgliad hwn yn seiliedig ar esboniadaeth y Midrash yn ogystal â straeon gwerin a chwedlau o lenyddiaeth Hebraeg a ffynonellau eraill. Datblygwyd arddull effeithiol o ryddiaith yn y Mayse-bukh, yn wahanol i'r hen farddoniaeth draethiadol, a ddylanwadodd ar gasgliadau diweddarach o straeon Iddew-Almaeneg. Dyma esiamplau cynnar o'r genre hagiograffaidd a oedd i ddatblygu yn llên y mudiad Hasidig, a darllenir y straeon yma o hyd mewn cymunedau Iddewig tra chrefyddol.

Barddoniaeth hanesyddol a'r arwrgerdd

[golygu | golygu cod]

Un o'r enghreifftiau cynharaf o lenyddiaeth seciwlar yr Iddewon Ashcenasi yw'r casgliad o ganeuon Hebraeg ac Iddew-Almaeneg a gyhoeddwyd gan Menachem Oldendorf (1450–?) ym 1517. Cyfeiria'r gwaith hwn at alawon Almaenig poblogaidd, adloniant a oedd yn wahanol iawn i ddiwylliant traddodiadol yr Iddewon. Mae ambell ysgolhaig, gan gynnwys Max Weinreich a Shmuel Niger, wedi bwrw'r amcan taw yn llên lafar y cantorion crwydrol megis Oldendorf mae gwreiddiau llenyddiaeth Iddew-Almaeneg seciwlar. Mae'n bosib i glêr o'r fath ysbrydoli traddodiad y badkhen, croesan sydd yn perfformio mewn seremoni briodas Iddewig.

Ymhlith yr esiamplau eraill o lenyddiaeth seciwlar yn y cyfnod hwn mae telynegion, barddoniaeth hanesyddol ac arwrgerddi, a phapurau newydd megis y Kuranton a gyhoeddwyd yn Amsterdam ym 1686–87. Cyfansoddwyd cerddi traethiadol mewn ymateb i brofiadau ingol a thrychinebau megis pogromau, brwydrau, neu danau mawr. Pwnc y Meshiekh-lid (1666) yw'r ffug-Feseia Sabbatai Zevi o'r dwyrain, sefydlydd y mudiad Sabateaidd a oedd yn ofid mawr i Iddewon y gorllewin. Ffynhonnell hynod o werthfawr am hanes, diwylliant, a bywydau'r Iddewon yng Nghanolbarth Ewrop yn niwedd yr 17g a dechrau'r 18g yw dyddiadur Glückel von Hameln (1645–1724), a ysgrifennwyd yn Iddew-Almaeneg yn bennaf.

Hasidiaeth a'r Haskalah

[golygu | golygu cod]

Cyfnod o ddatblygiadau crefyddol, cymdeithasol, diwylliannol, athronyddol, a deallusol ym mywyd yr Iddewon yn Ewrop oedd y 18g ac hanner cyntaf y 19g. Câi'r Oleuedigaeth yng Ngorllewin Ewrop ddylanwad mawr, yn arbennig trwy annog Iddewon i foderneiddio ac i gymhathu'n ddiwylliannol at gymdeithas y Cristnogion.

Iddew-Almaeneg Modern

[golygu | golygu cod]

Unol Daleithiau America

[golygu | golygu cod]

Y wasg oedd prif gyfrwng diwylliant poblogaidd y mewnfudwyr Iddew-Almaeneg i Unol Daleithiau America yn nechrau'r 20g. Yn 1914, cyhoeddid pum papur newydd dyddiol yn Ninas Efrog Newydd yn yr iaith, yn ogystal â chyfnodolion wythnosol a misol. Yn ogystal â rhoi'r newyddion ac hysbysu am gyfleoedd i ymwneud â'r diwylliant Iddew-Almaeneg, buont yn cyhoeddi llên boblogaidd megis barddoniaeth, straeon difyr ac anecdotau, llythyrau at y golygydd, ryseitiau a chyngor y cartref, croeseiriau, a chartwnau. Ymddangosodd ffuglen hir fesul rhifyn, gweithiau gwreiddiol a chyfieithiadau o glasuron llenyddiaeth y byd, ac un genre boblogaidd oedd y shund-romanen (nofel gyffrous).[1] Un o'r prif gyhoeddiadau oedd Yidishes Tageblat, y papur newydd dyddiol Iddew-Almaeneg cyntaf yn y byd.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Jeffrey Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture, golygwyd gan Jack R. Fischel a Susan M. Ortmann (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2009), t. 450.