Llenyddiaeth Facedoneg
Llên grefyddol, yn nhraddodiad Uniongrededd Ddwyreiniol, oedd gwreiddiau'r llenyddiaeth Facedoneg, a ysgrifennwyd mewn tafodieithoedd Hen Slafoneg Eglwysig ac yn yr wyddor Glagolitig. Rhoddir yr enw Ysgol Lenyddol Ohrid ar y traddodiad hwn, a sefydlwyd gan Sant Clement yn Ohrid (a leolir heddiw yn ne-orllewin Gogledd Macedonia) yn 886, yn ystod oes Ymerodraeth Gyntaf Bwlgaria. Ymhlith y testunau sydd yn esiamplau o ffurfiau cynnar yr iaith Facedoneg, a elwir gan ieithyddion yn "yr adffurf Facedonaidd" neu "adffurf Ohrid", mae Llyfr Offeren Kyiv (10g), Codecs Zographensis (10g neu 11g), a Sallwyr Sinai (11g). Ceir hefyd Dernynnau Zographos (11g) a ysgrifennwyd yn yr wyddor Gyrilig.
Dan iau'r Ymerodraeth Otomanaidd, o ddiwedd y 14g hyd at ddechrau'r 20g, pallu a wnâi traddodiad llenyddol y Macedoniaid, a deunydd crefyddol oedd ym mron ei unig gynnyrch. Ers yr 16g, bu llenorion Slafoneg yn cynnwys elfennau o iaith y werin yn eu gwaith, ac yn y 19g daeth yr arfer hon yn fwyfwy gyffredin. Yn ystod yr oes Otomanaidd, cafodd diwylliant y Groegiaid ddylanwad ar grefydd ac addysg yn nhiroedd deheuol y Macedoniaid, ac yma buont yn ysgrifennu'r Facedoneg drwy gyfrwng yr wyddor Roeg yn hytrach na'r wyddor Gyrilig. Yn hanner cyntaf y 19g, ymddangosodd corff bach o lên yn iaith y werin, wedi ei ysgrifennu yn yr wyddor Roeg, ac yn cynnwys cyfieithiadau o'r Efengylau a thestunau didactig ar bynciau crefyddol. Oherwydd y wahaniaeth o ran y system ysgrifennu, datblygodd y traddodiad hwn ar wahân i'r ieithoedd Slafonaidd ysgrifenedig eraill, ac o achos hynny ffurf neilltuol ydy'r iaith lenyddol sydd yn wir adlewyrchiad o lafar gwlad yr oes. Dylanwadwyd ar lenyddiaeth Facedoneg Gyrilig yn gryf gan y traddodiad Slafoneg Eglwysig, a bu hefyd yn cyfuno â'r elfennau Groegaidd. Bu nifer o lenorion y cyfnod, gan gynnwys Dimitar Miladinov (1810–62) a Grigor Prličev (1830–93), yn ysgrifennu drwy gyfrwng y ddwy wyddor.[1]
Yng nghanol y 19g, casglodd y brodyr Miladinov, Dimitar a Konstantin (1830–62), straeon a chaneuon gwerin y Macedoniaid, cyfraniad hynod o bwysig at ddatblygiad llenyddiaeth fodern Facedoneg. Cyfansoddodd Konstantin Miladinov hefyd farddoniaeth delynegol yn ei iaith frodorol. Yn ei gyfrol За македонцките работи (Za Makedonskite raboti; 1903), dadleuai'r ieithegwr ac hanesydd Krste P. Misirkov (1874–1926) dros genedlaetholdeb ieithyddol a diwylliannol y Macedoniaid. Sefydlodd Misirkov hefyd y cylchgrawn Вардар (Vardar) ym 1905 er mwyn hyrwyddo'i syniadau. Yn sgil cwymp yr Otomaniaid a sefydlu Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (Iwgoslafia) ym 1918, gwrthododd y wladwriaeth, dan dra-arglwyddiaeth y Serbiaid, gydnabod hunaniaeth ieithyddol y Macedoniaid, ac ystyriwyd yr iaith Facedoneg yn ddim mwy na thafodiaith o Serbo-Croateg. Fodd bynnag, bu rhywfaint o gynnydd ar ddiwylliant llenyddol ymhlith y Macedoniaid yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Efelychwyd ymdrechion Misirkov gan lenorion iau megis y beirdd Kočo Racin (1908–43) a Kole Nedelkovski (1912–41).
Cafodd yr iaith Facedoneg ei safoni wedi'r Ail Ryfel Byd gan y llywodraeth gomiwnyddol. Sail y ffurf safonol oedd tafodiaith Prilep a Titov Veleg, a benthycwyd nifer o eiriau i'r iaith gan Serbeg a Bwlgareg.[1] Yn y cyfnod hwn, blodeuai sawl ffurf a genre yn llenyddiaeth Facedoneg. Ymhlith y beirdd newydd oedd Aco Šopov (1923–82), Slavko Janevski (1920–2000), Blaže Koneski (1921–93), a Gane Todorovski (1929–2010). Janevski hefyd oedd awdur y nofel gyntaf yn yr iaith Facedoneg, Село зад седумте јасени (Selo zad sedumte jaseni; 1952), ac ysgrifennodd hefyd gylch o chwe nofel sydd yn ymwneud ag hanes a chwedloniaeth y Macedoniaid. Prif ddramodwyr y theatr Facedoneg yn yr 20g oedd Kole Čašule (1921–2009), Tome Arsovski (1928–2007), a Goran Stefanovski (1952–2018). Ysgrifennwyd straeon byrion a nofelau gan Živko Čingo (1935–87).[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Blaže Koneski, "Macedonian" yn The Slavic Literary Languages: Formation and Development, golygwyd gan Alexander M. Schenker ac Edward Stankiewicz (New Haven, Connecticut: Yale Concilium on International and Area Studies, 1980), tt. 54–55.
- ↑ (Saesneg) Macedonian literature. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Ebrill 2021.