Neidio i'r cynnwys

Llenyddiaeth Camerŵn

Oddi ar Wicipedia
Llenyddiaeth Camerŵn
Enghraifft o:is-set o lenyddiaeth Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Camerŵn yn gartref i gannoedd o ieithoedd brodorol, ond ysgrifennir y rhan fwyaf o lenyddiaeth y wlad mewn un o'r ddwy iaith Ewropeaidd a gyflwynwyd yn yr oes drefedigaethol, y Ffrangeg a'r Saesneg. Protectoriaeth Almaenig oedd Camerŵn i gychwyn yn yr Ymgiprys am Affrica, ond yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf rhennid y diriogaeth yn ddau fandad, y dwyrain dan reolaeth Ffrainc a'r gorllewin dan reolaeth Prydain. Y Ffrangeg ydy'r iaith gyffredin yn y rhan fwyaf o'r wlad, a'r gweddill yn defnyddio'r Saesneg yn bennaf.

Mae rhyw 70% o'r boblogaeth yn medru darllen, a 10% yn darllen Ffrangeg a Saesneg yn ddwyieithog. Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Camerŵn ym 1966, a fe'i lleolir yn y brifddinas, Yaoundé. Yr unig bapur newydd dyddiol cenedlaethol a gyhoeddir yn y wlad, ac hynny yn ddwyieithog, yw'r Cameroon Tribune, a berchenogir gan y llywodraeth. Mae newyddiaduron a chyfnodolion eraill yn cynnwys La Gazette a Le Messager yn Ffrangeg, a'r Cameroon Outlook a'r Cameroon Times yn Saesneg. Ers 1982, llywodraeth Paul Biya sy'n meddu ar reolaeth sylweddol dros fywyd diwylliannol y wlad, ac mae sensoriaeth yn gyffredin.

Ffrangeg

[golygu | golygu cod]

Nodweddir llenyddiaeth Ffrangeg Camerŵn gan wrthdrefedigaethedd cryf sy'n ymddatgan hunaniaeth a galluedd y wlad yn sgil annibyniaeth, ac yn beirniadu effeithiau'r hen drefn ymerodrol ar fywydau'r brodorion. Ymhlith y to o lenorion i ymwneud â'r "cyfarfyddiad trefedigaethol" mae Francis Bebey (1929–2001), Mongo Beti (1932–2001), Ferdinand Oyono (1929–2010), a Mbella Sonne Dipoko (1936–2009). Mae'r corff llenyddol hwn i raddau helaeth yn ystyried y Gamerŵn ôl-drefedigaethol yn wlad Ffrangeg yn unig, gan ganolbwyntio ar hanes y dwyrain ar draul profiad y gorllewin Saesneg.[1] Yn ddiweddar, mae mwy o lenorion Ffrangeg wedi troi eu sylw at broblemau'r gymdeithas fodern, ond cyfyngir ymdriniaeth rydd a gonest o bynciau llosg gan sensoriaeth. Mae awduron benywaidd diweddar yn cynnwys Calixthe Beyala (g. 1961) ac Angeline Solange Bonono (g. 1975).

Saesneg

[golygu | golygu cod]

Mae llenyddiaeth Saesneg Camerŵn yn aml yn ymwneud â Phwnc y Saesneg, hynny yw, y tensiynau rhwng y boblogaeth Saesneg a'r mwyafrif Ffrangeg sy'n dominyddu bywyd gwleidyddol y wlad. Mae'r disgwrs hwn felly yn wahanol i'r traddodiad Ffrangeg, gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng dwy gymdeithas Affricanaidd yn hytrach na'r cyfarfyddiad trefedigaethol hanesyddol.[1] Mae llenorion Saesneg o Gamerŵn yn cynnwys y dramodydd Bole Butake (1947–2016), y bardd Bate Besong (1954–2007), y nofelydd Linus Asong (1947–2012), a'r ffuglennwr ac ysgolhaig John Nkemngong Nkengasong (1959–2023). Mae awduron benywaidd diweddar yn cynnwys Juliana Makuchi Nfah-Abbenyi (g. 1958), Anne Tanyi Tang (m. 2019), Eunice Ngongkum, a Margaret Afuh.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 Mark Dike DeLancey, Rebecca Neh Mbuh a Mark W. DeLancey, Historical Dictionary of the Republic of Cameroon (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2010), tt. 230–31.