Lleiandy Llansantffraed-yn-Elfael

Oddi ar Wicipedia
Lleiandy Llansantffraed-yn-Elfael
Mathlleiandy Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAbaty Ystrad Marchell Edit this on Wikidata
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.18988°N 3.319143°W Edit this on Wikidata
Map

Lleiandy Sistersiaidd yn Llansantffraed-yn-Elfael, Powys, oedd Lleiandy Llansantffraed-yn-Elfael (am yr amrywiadau ar sillafu Llansantffraed gweler Llansantffraid (gwahaniaethu).

Sefydlwyd y lleiandy yng nghantref Elfael yn ardal Rhwng Gwy a Hafren yn y flwyddyn 1170. Hwn oedd y lleiandy Sistersiaidd cyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru, ond cafodd hanes cythryblus a byr fu ei barhad.

Mam-abaty'r sefydliad newydd oedd Abaty Ystrad Marchell, prif abaty Teyrnas Powys yn ôl y ffynonellau, ond nid yw'n amhosibl ei fod yn perthyn i Abaty Cwm Hir.

Ond yn ôl Gerallt Gymro, sy'n cyfeirio ato yn ei lyfr enwog Hanes y Daith Trwy Gymru (taith a wnaeth yn 1188) a dau destun arall diweddarach, nid oedd y berthynas rhwng yr abaty mawr a'r lleiandy newydd yn dda o'r cychwyn cyntaf. I waethygu'r sefyllfa, yn ôl Gerallt bu carwriaeth rhwng Enoc, abad Ystrad Marchell, ac un o'r lleianod. Rhedodd y ddau i ffwrdd ond dychwelodd Enoc i'r abaty yn ddiweddarach ac edifeiriodd am ei weithred. Ond mewn testun arall gan Gerallt, y Gemma Ecclesiastica, abad o abaty enwog yr Hendy-gwyn ar Daf oedd Enoc, a arosodd yn y lleiandy a llwyddo i gael sawl un o'r lleianod yn feichiog cyn rhedeg i ffwrdd gyda'i gariad.

Ymddengys fod y lleiandy wedi dod i ben tua'r flwyddyn 1190. Mae'n bosibl fod rhai o'r lleianod wedi symud i leiandy Llanllŷr, Ceredigion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Jane Cartwright, Y Forwyn Fair, Santesau a Lleianod (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999)
  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992)