Llanveynoe
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llanfeuno)
Jump to navigation
Jump to search
Math | pentref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.977°N 3.017°W ![]() |
Cod SYG | E04000814 ![]() |
Cod OS | SO301314 ![]() |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Llanveynoe[1] (Cymraeg: Llanfeuno).[2]
Fe'i lleolir yn ne-orllewin Swydd Henffordd, ym mhen uchaf cwm hir sy'n gorwedd ar y ffin â Chymru, i'r dwyrain o'r Mynydd Du. Y pentref agosaf yw Longtown, wrth waelod y cwm.
Bu'n rhan o arglwyddiaeth Gymreig Ewias yn yr Oesoedd Canol cynnnar. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd clas yn perthyn i Feuno Sant yno yn y 6g ar safle eglwys y pentref. Bu'r rhan yma o orllewin Swydd Henffordd yn ardal Gymraeg hyd yn gymharol ddiweddar, ac mae'r enw Saesneg yn llygriad o'r enw Cymraeg gwreiddiol.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 102.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ British Place Names; adalwyd 22 Hydref 2019
- ↑ Geiriadur yr Academi, t. 832.
- ↑ City Population; adalwyd 22 Hydref 2019