Llanbedr Gwynllŵg

Oddi ar Wicipedia
Llanbedr Gwynllŵg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.516°N 3.056°W Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r enw "Llanbedr", gweler Llanbedr (gwahaniaethu).

Llanbedr neu Llanbedr Gwynllŵg yw pentrefan i'r de-orllewin o ddinas Casnewyddde Cymru.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Lleolir Llanbedr Gwynllŵg 9.6 km i'r gorllewin o ganol dinas Casnewydd a 12 km i'r dwyrain o ganol dinas Caerdydd.

Mae'n gorwedd yng nghymuned plwyfol  Gwynllŵg a ward etholiadol  Marshfield.

Hanes ac amwynderau[golygu | golygu cod]

Fel y rhan fwyaf o aneddiadau ar Lefel Gwynllŵg  mae'n gorwedd ar dir a adferwyd o Fôr Hafren [1]. Lleolir Llanbedr ei hun yn erbyn morglawdd [2],[3] ac mae'r cyn-eglwys blwyfol San Pedr nawr yn dŷ preifat.

Tafarn lleol yw'r Six Bells [4].

Cais Maenol 2004[golygu | golygu cod]

Daeth y pentrefyn yn ganolbwynt sylw'r wasg yn 2004 pan fu i berson o'r enw Marc Roberts a oedd eisoes wedi prynu teitl Arglwydd y Faenor benderfynu codi tâl gormodol ar bentrefwyr i groesi yr hyn a oedd bob amser wedi bod yn eu tir eu hunain. Trafodwyd y materion yn y senedd ac atebwyd ar y pwnc gan yr is-Ysgrifennydd Seneddol Gwladol tros Faterion Cyfansoddiadol yn cydnabod 'yr angen am ddiwygio ar y olion cyfraith ffiwdalaidd a maenoraidd'.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Gowt Llanbedr

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]