Llabedlys gwyrdd tywyll

Oddi ar Wicipedia
Llabedlys gwyrdd tywyll
Jungermannia atrovirens

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Jungermanniaceae
Genws: Jungermannia
Rhywogaeth: J. atrovirens
Enw deuenwol
Jungermannia atrovirens

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llabedlys gwyrdd tywyll (enw gwyddonol: Jungermannia atrovirens; enw Saesneg: dark-green flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon ytn eitha cyffredin yn yr Alban, Iwerddon, gogledd Lloegr a Chymru. Dyma'r Jungermannia mwyaf cyffredin ac mae'n tyfu mewn ardaloedd calchfaen ac ar dywodfaen cyfoethog o waelod. Mae J. atrovirens yn wyrdd tywyll, ac yn amrywio o ran maint, ond fel arfer mae'n fach i ganolig ei faint gyda'r coesynnau'n 2–3 mm o led, a dail hyd at 1 mm o led a hir.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Llabedlys gwyrdd tywyll gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.